Skip to main content Skip to footer
17 Ebrill 2024

Blog Tom - Dylunio Cynnyrch yn Coleg Caerdydd a'r Fro

ADD ALT HERE

Mae'r Coleg yn wahanol iawn i'r ysgol ond mae wedi bod yn fwy o her i bobl sydd yn dod o  ysgolion Cymraeg.

Thomas Delamotte ydw i, dwi yn 16 ac rydw i yn neud cwrs lefel 3 Btec Dylunio Cynnyrch. Mae Dylunio Cynnyrch yn gwrs galwedigaethol a does 'na ddim llawer o bobl yn siarad Cymraeg ar y cwrs. Ac mae hyn yn wir gyda llawer o bobl arall ac oherwydd hyn mae yn bwysig i fi allu parhau i siarad Cymraeg efo pobl sydd yn gallu felly dydych chi ddim yn colli’r iaith.

Rydw i yn mynd i scouts ac oherwydd fy mod yn gallu siarad Cymraeg es i Jambori sgowtiaid y byd yn Ne Korea efo 40,000 o bobl o wledydd gwahanol. Hefyd oherwydd dwi’n siarad Cymraeg dwi di cael y cyfle i fod ar deledu ar fwy nag un achlysur. Mae’r Gymraeg yn ddefnyddiol iawn ac yn bwysig i mi oherwydd mae’r cyfleoedd yn gallu newid eich bywyd.

Diolch i'r Coleg a ni y llysgenhadon Cymraeg rydyn yn gallu newid persbectif y Gymraeg. Mae’r Gymraeg yn iaith bwysig, yn iaith ein gwlad ac mae’r bobl sydd yn ei siarad yn cadw fe fynd a hefyd mae’r Gymraeg yn rhoi cyfleoedd gwahanol fel bod ar deledu, mynd i wledydd gwahanol efo’r urdd a mwy. 

Gwnewch ymdrech i siarad gyda phobl a helpu pobl arall os maen nhw angen help efo gair neu dysgu pobl arall sydd ddim yn siarad Cymraeg. 

Mae’r gymdeithas Cymraeg yn fach ond mae hyn ddim yn meddwl dylech chi neud y gymdeithas yn llai oherwydd rydych wedi symud i Goleg neu ysgol Saesneg a trïwch wella'r gymuned Cymraeg ble bynnag yr ydych chi.