Skip to main content Skip to footer
24 Tachwedd 2025

Codi llais, codi hyder: Cynhadledd Fel Merch yr Urdd yn “ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf”. - Blog Gwenllian

ADD ALT HERE

Daeth dros 250 o ferched i Stadiwm Dinas Caerdydd ar 13 Tachwedd ar gyfer cynhadledd #FelMerch yr Urdd. Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd, bwriad y diwrnod oedd “ysbrydoli, ymbweru, a rhoi llais i ferched ifanc.”

Hon oedd y drydedd gynhadledd #FelMerch, gyda disgyblion o bob rhan o Gymru’n cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol, a gwrando ar banel o fenywod dylanwadol.

“Dilyn eich diddordebau a rhoi tro arni”
I’n ysbrydoli ymhellach, roedd Rhian Wilkinson ar y panel - rheolwr tîm pêl-droed merched Cymru. Mae hi’n un sy’n gwybod sut i godi ysbryd a thrawsnewid chwaraeon i ferched, a siaradodd am ei phrofiad heriol fel chwarae wraig ifanc pan oedd llai o dimau, a chyfleoedd i ferched.

Dywedodd fod “llawer o bwysau” ar ferched ifanc heddiw, ac anogodd y rhai fu’n gwrando i ddilyn trywydd oedd yn eu hysbrydoli.

“Yn mynd o nerth i nerth”
Dechreuodd Lili Jones chwarae pêl droed i dîm o fechgyn pan oedd hi’n 6 oed, ac eisoes yn chwarae i dîm merched Wrecsam, sydd wedi perfformio o flaen torf o 9,500 ar y Cae Ras.

Pwysleisiodd fod y gynhadledd yn “anogaeth enfawr” i ferched sy’n dymuno cymryd rhan yn y gamp, a bod pêl-droed merched “yn mynd o nerth i nerth” ac yn dal i dyfu.
Ychwanegodd; “os ti’n lledaenu faint o genod sy’n chwarae ar lawr gwlad, mae faint sy’n neud o fel chwaraewyr elît yn cynyddu hefyd”.

“Does dim rhwystrau”

Hefyd yn adrodd ei stori oedd enillydd Person Ifanc Ysbrydoledig chwaraeon Cymru yn 2019, Mia Lloyd, sydd bellach yn cynrychioli Cymru fel athletwraig para ar ôl cael diagnosis o ganser esgyrn yn 10 oed.

Siaradodd Ela-Letton Jones hefyd am ei phrofiad ar ôl derbyn medal arian yn ei hymddangosiad cyntaf yng Nghystadleuaeth Para Nofio’r byd eleni, a’r rhwystrau a gwaith caled wrth iddi ymarfer a chystadlu.

“Da ni ddim yn ofn dangos sgiliau newydd”

Dywedodd disgyblion fod y cyfleoedd chwaraeon yn eu hysgolion wedi gwella’n aruthrol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. “Dwi wedi dysgu bod merched ddim yn ofn dangos sgiliau newydd,” meddai un ohonynt.

“Mae lle i fuddsoddi ymhellach”

Soniodd Siân Lewis fod heriau ariannol dal yn creu rhwystr. “Os ydyn ni eisiau gweld newid gwirioneddol, mae’n rhaid cael cyllid teg a buddsoddiad ariannol”
Cytunodd hefyd gyda Rhian Wilkinson, a dweud y byddai’r sefyllfa’n wahanol iawn petai chwaraeon menywod a dynion wedi cael ariannu teg dros y degawdau diwethaf.

“Man cychwyn ydy hyn”

Er hynny, nodwyd fod partneriaethau gyda CBDC, URC, Chwaraeon Anableddau Cymru a chyrff eraill yn gam cadarnhaol tuag at wneud chwaraeon i ferched yn fwy gweladwy ar y cyfryngau ac yn eu cymunedau.

Yn ôl y trefnwyr, rhoddodd y diwrnod gyfle i ferched ddysgu, trafod a chael eu hysbrydoli i gymryd rhan mewn chwaraeon, ymuno a byrddau i leisio’u barn, a sefyll dros yr hyn sy’n bwysig iddynt.

Gwenllian Mason

fel merch