Skip to main content Skip to footer
10 Chwefror 2026

Wythnos Prentisiaethau Cymru: Hanna - Fy uchafbwyntiau fel Prentis, hyd yn hyn

ADD ALT HERE

Hanna ydw i a dwi'n dilyn prentisiaeth Nyrsio gyda'r GIG.

Mae bod yn brentis wedi fy helpu i ddod yn fwy hyderus ac annibynnol, oherwydd mae gennyf gyfrifoldebau. Mae gweithio yn y sector gofal iechyd wedi gwella fy sgiliau cyfathrebu. Rwyf wedi dysgu sut i siarad yn broffesiynol, gofyn cwestiynau, derbyn adborth, a gweithio gyda gwahanol weithwyr iechyd proffesiynol. Rwyf hefyd wedi datblygu moeseg gwaith gref a sgiliau rheoli amser, gan gydbwyso gwaith, hyfforddiant, dyddiadau cau ar gyfer gwaith academaidd a bywyd personol.

Mae gorfod wynebu heriau go iawn wedi gwneud i mi fod yn fwy gwydn ac yn well wrth ddatrys problemau. Rwyf hefyd wedi dysgu bod gwneud camgymeriadau fel prentis yn normal, a bydd dysgu o’ch camgymeriadau yn gwneud chi’n brentis gwell.

Mae bod yn siaradwr Cymraeg wedi bod yn gryfder gwirioneddol i mi fel prentis gofal iechyd. Mae llawer o gleifion yng Nghymru yn enwedig plant iau neu bobl hŷn, yn teimlo’n fwy cyfforddus wrth siarad Cymraeg. Mae cleifion yn gallu esbonio symptomau yn eu hiaith gyntaf yn well gan eu bod yn gliriach ac yn fwy hyderus. Mae hyn yn fy helpu i gasglu gwybodaeth fwy manwl a lleihau unrhyw gamddealltwriaeth. Mae gallu cyfathrebu â chleifion ar y ward yn eu hiaith gyntaf wedi gwneud iddynt ymddiried ynof i a dod ata i a siarad am eu pryderon a’u teimladau.

Mae gweithio a dysgu fel prentis yn cynnig manteision mawr, oherwydd rwyf yn datblygu sgiliau go iawn mewn lleoliadau go iawn tra hefyd yn dysgu. Trwy ddysgu rwyf yn gallu ennill profiad a mynd â'r profiad hwnnw i leoedd eraill fel wardiau gwahanol. Mantais arall yw fy mod yn ennill arian tra’n dysgu, lle rwyf yn gallu bod yn fwy annibynnol.

Mae asesydd fy ngholeg yn chwarae rhan bwysig iawn yn fy helpu i gydbwyso gwaith y coleg â fy swydd fel prentis. Mae hi’n rhoi cefnogaeth barhaus i mi wrth astudio a gweithio. Mae’r asesydd yn egluro pynciau cymhleth mewn ffordd sy'n gwneud hi'n hawdd i mi ddeall, ac yn addasu ei steil dysgu mewn modd y gall pawb ei ddeall. Un o’r uchafbwyntiau mwyaf o fod yn brentis yw cefais fy enwebu ar gyfer un o wobrau B-wbl sy'n wobr dysgu seiliedig ar waith. Cefais fy enwebu ar gyfer Gwobr Iaith Gymraeg y Flwyddyn. Er ni enillais, roedd yn fraint cael enwebiad a chyrraedd y rownd derfynol.