Skip to main content Skip to footer
27 Tachwedd 2025

Mis o bêl-droed Cymreig: Blog Beth

ADD ALT HERE

Ymysg adolygiad blynyddol, cynhadledd y Coleg a pharatoi tuag at yr Eisteddfod Genedlaethol, gyrhaeddodd mis Gorffennaf yn gyflym ac yn galed. Ar ôl cyrraedd adref o un o’r misoedd mwyaf blinedig, ond arbennig, yn fy mywyd hyd yn hyn, dwi’n cael pleser wrth feddwl yn ôl dros yr wythnosau diwethaf.

Beth Angharad Jones ydw i, ac rwyf yn astudio doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor gyda cymorth gan y Coleg Cymraeg. Rydwyf yn llysgennad i’r Coleg sydd yn rhoi siawns i mi rannu fy mhrofiadau o waith y ddoethuriaeth, ond hefyd y profiadau. Mae’r ddoethuriaeth mewn pynciau yr ydwyf wedi bod yn angerddol amdanynt ers yn ferch ifanc; pêl-droed a Chymru.

Drwy astudio themâu o hunaniaeth, cenedlaetholdeb a’r cof drwy’r maes pêl-droed, byddaf yn creu dealltwriaeth a dangos tystiolaeth o beth mae pêl-droed wedi ei olygu yng ngogledd Cymru dros y degawdau diwethaf. Cefais y blas cyntaf o bêl-droed drwy fy nhad, cefnogwr angerddol o Manchester United a hefyd tîm cenedlaethol Cymru. Fel merch ifanc, nid oeddwn yn bwriadu chwarae yn broffesiynol – doeddwn i ddim yn gwybod ei fod hyd yn oed yn bosib – felly treuliais oriau yn chwarae a gwylio’r gamp er mwyn jyst mwynhau. Ond mae yna ddigon o anawsterau.

Wrth chwarae, dim ond timau lleol i hogiau oedd yn bodoli, ond diolch i gefnogaeth fy mrawd a fy nhad, mi wnaeth y ferch swil hon barhau i chwarae ymysg yr hogiau. Erbyn i mi fynd i’r ysgol uwchradd, daeth hynny i ben a dechreuais chwarae 5 bob ochor gyda thîm bach o ferched ysgol yn ystod amser cinio. Dyna le ddes i o hyd i dîm merched Cymru. Yn ystod amser cinio eisteddais yn nerfus efo fy ffôn symudol i drio gwylio’r tîm yn chwarae rhywle yn Ewrop, ar wefan heb sylwebaeth a heb lawer o gefnogwyr yn y stadiwm. Dros y blynyddoedd dilynol, bûm yn disgwyl am ffordd well i weld fy nhîm cenedlaethol yn chwarae pêl-droed.

Erbyn 2025, mae gymaint wedi newid. Wrth gwrs, dyma’r flwyddyn gyntaf erioed i dîm merched Cymru gyrraedd pencampwriaeth fawr, ond hefyd roedd y gemau ar gael i’w gwylio ar y teledu am ddim, gyda sylwebaeth Gymraeg a Saesneg. Wrth i’r dyfarnwr chwythu’r chwiban olaf y gêm gymhwyso yn Iwerddon, aeth fy meddwl yn syth i’r Swistir – doeddwn i ddim am fethu’r profiad hwnnw. Ond, penderfynais deithio i’r gêm gyntaf yn erbyn yr Iseldiroedd yn unig achos yr wythnos wedyn roedd cystadleuaeth ryngwladol arall yn digwydd; Gemau’r Ynysoedd.

Bob dwy flynedd, mae ynysoedd ar draws y byd yn dod at ei gilydd i gystadlu yn y ‘mini Olympics’, gan gynnwys Bermuda, Ynysoedd y Falklands, Ynys Manaw a lleoliad y gystadleuaeth yn 2025, sef ynysoedd Orkney. Tra bod miloedd o gystadleuwyr yn ymuno i chwarae golff, gwneud gymnasteg, nofio a rhedeg, mae timau hefyd yn cystadlu yn y pêl-droed. Felly, teithiodd tîm o ferched a thîm o ddynion ar fws efo’r cystadleuwyr eraill o Ynys Môn am 16 awr i dop yr Alban, cyn teithio ar gwch ar draws i ynysoedd Orkney.

Carfan Gemau'r Ynysoedd

Er y gwahaniaethau rhwng y Swistir ac Orkney, a’r Ewros a Gemau’r Ynysoedd, roedd y profiadau a gefais yn y gwahanol lefydd yn debyg i’w gilydd. Y peth gyntaf teimlais oedd y cynnwrf; teimladau o gyffro law yn llaw â nerfau, a’r balchder o gynrychioli ein hardaloedd drwy chwaraeon. Dywedodd yr hanesydd Eric Hobsbawm, ‘An imagined community of millions seems more real as a team of 11 named people’.[1] Dros y bythefnos hon, teimlais yn union beth oedd Hobsbawm yn drio ei esbonio. Yn Luzern, y ddinas gyntaf i dîm merched Cymru gystadlu ynddi mewn pencampwriaeth fawr,  roedd y garfan o ferched yn cynrychioli brwydr Cymru dros y ganrif a hanner ddiwethaf i chwarae pêl-droed yn rhyngwladol.

Am 58 mlynedd, ceisiodd tîm cenedlaethol Cymru gyrraedd pencampwriaeth fawr eto ar ôl y llwyddiant cyntaf yng Nghwpan y Byd 1958. Llwyddodd y tîm i gyrraedd yr Ewros yn 2016 ar gefn hanes o dimau o unigolion hynod llwyddiannus a phwysig yn hanes pêl-droed Cymru, a chreu cyffro enfawr ar gyfer chwaraeon yng Nghymru. Wrth gwrs, mae’r llwyddiant wedi gosod llwyfan i bêl-droedwyr Cymru gael adeiladu ymhellach, a welon ni dystiolaeth o hynny yn 2022 pan gyrhaeddodd y tîm Gwpan y Byd am yr ail waith. Ond, yn gwylio’r holl lwyddiant hwn yr oedd carfan o ferched Cymraeg a oedd yn gobeithio cyrraedd yr un llwyddiant. Wrth i’r dynion treulio 58 mlynedd yn brwydro i gyrraedd pencampwriaeth fawr unwaith eto, treuliodd merched ar draws Prydain 50 mlynedd yn y cefndir ar ôl i’r FA wahardd merched i chwarae’r gamp; o ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf hyd at 1970.

Nid oedd tîm merched Cymru yn derbyn cymorth gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru tan 1993. Diolch i unigolion fel Laura McAllister, Karen Jones a Michelle Adams, daeth y merched o dan adain y sefydliad yn swyddogol ar ôl i ferched dros Gymru frwydro i chwarae gemau rhyngwladol ers 1973. Yn ystod 1973, daeth aelodau’r 5 tîm merched yng Nghymru at ei gilydd i chwarae yn erbyn tîm Iwerddon. Yn 2024, curodd tîm merched Cymru'r tîm Gwyddelig gan gymhwyso ar gyfer eu pencampwriaeth fawr gyntaf.

Wrth i’r garfan gerdded allan ar gae Stadiwm Luzern, a phan ganodd 4,000 o gefnogwyr yr anthem genedlaethol, doedd dim llygaid sych o gwmpas fi a fy nhad, gan gynnwys y ddau ohonom ni. Ar ôl i 8,000 o gefnogwyr o Gymru a’r Iseldiroedd gerdded 2.5km o’r ‘Fanzone’ i’r stadiwm drwy strydoedd Luzern yn canu ac yn dathlu, roedd teimlad ein bod wedi ennill y peth mwyaf pwysig yn barod. Wrth i mi eistedd yma ac ysgrifennu, dwi’n ffeindio hi’n anodd rhoi’r profiad bythgofiadwy i mewn i eiriau a rhoi cyfiawnder i’r 5ed o Orffennaf 2025.

Pan gyrhaeddais seremoni agoriadol Gemau’r Ynysoedd, dim ond wythnos ar ôl y diwrnod hanesyddol hwn i bêl-droed Cymraeg, roedd hi’n anodd anwybyddu’r fraint o allu sefyll efo fy nghyd-chwaraewyr ymysg cystadleuwyr rhyngwladol a oedd yn gwisgo cit â’r ddraig goch arno. Fel rhan o’r dorf yn cerdded drwy strydoedd Kirkwall (Orkney), gwyliais unigolion yn dod at ei gilydd i gynrychioli eu cartrefi, yn gwisgo fflagiau a lliwiau eu hynysoedd. Yn Luzern, cerddais ymysg torf o grysau coch a baneri Cymru gan ddilyn torf oren yr Iseldiroedd. Roedd yr adegauhyn o unigolion yn uno yn hynod o bwerus ac yn arbennig i’w gwylio.



[1] E. Hobsbawm, Nations and Nationalism since 1870: Programme, Myth, Reality (1990), tp. 143.

Ymysg yr emosiwn, teimlais yn andros o lwcus o gael cyfarfod gymaint o bobol wahanol, o wledydd ac ynysoedd gwahanol, drwy bêl-droed. Cefais brofiad yn y ‘Fanzone’ efo fy nhad wrth siarad â dyn o’r Iseldiroedd â’i ffrindiau i gyd yn gwisgo oren. 

Dechreuodd y sgwrs gyda’r dyn yn canmol ein chwaraewr efo’r capiau rhyngwladol fwyaf yn hanes pêl-droed Cymru, Jess Fishlock, pan chwaraeodd hi i glwb AZ Alkmaar - tîm a wnaeth ein ffrind newydd ei ddisgrifio fel ‘fy nghlwb i’. Rhoddodd y dyn wedyn fathodyn baner yr Iseldiroedd i’r ddau ohonom ‘i gofio pwy wnaeth ein curo yn y bencampwriaeth’, ond yn wir mae’r bathodyn yn fy atgoffa’n well o’r dyn ei hun.

Roedd 4,000 o gefnogwyr yn Luzern, ac ar strydoedd y ddinas fe wnaeth bob un a gerddodd heibio roi ‘nod’ gyfeillgar o’r pen i’w  gilydd. 800 milltir i ffwrdd o Gymru, ac roedd strydoedd Luzern yn dod ag unigolion o bob rhan o’r wlad at ei gilydd fel hen ffrindiau. Ar ôl i’r gêm ddod i ben, teithiodd bysiau o gefnogwyr yn ôl i’r Fanzone gan ganu’r holl ffordd – o’r anthem i Galon Lân ac i gân Mr Urdd. Ni ddaeth y dathliadau i ben am oriau, efo gig Adwaith mewn tafarn yn creu cymuned llawn ffrindiau a'r iaith Gymraeg .

Wrth deithio i leoliadau newydd, mae’r cyfleoedd i siarad efo pobol gwahanol a rhannu profiadau yn dod yn hawdd. Yn ystod seremoni agored Gemau’r Ynysoedd, mae traddodiad gan gystadleuwyr o bob ynys gyfnewid bathodynnau wedi’u haddurno efo rhywbeth sy’n cynrychioli eu hynys. Wrth gyfnewid fy mathodynnau cefais gasgliad o liwiau baner Orkney, crwban o’r Cayman Islands, triongl pinc o Bermuda a siâp ynys ag addurniadau o Foroyar. Mae pobol yn trafod eu campau a’u gobeithion wrth gyfarfod ag unigolion o ar draws y byd.

Yn ystod y gemau dydy’r cyfathrebu ddim mor gyfeillgar, ond mae clywed tîm Hitra yn cyfathrebu yn ‘Norwegian’ tra bod Ynys Môn yn gweiddi’n Gymraeg yn arbennig i’w glywed. Ond, yn debyg i’r Swistir, ar ddiwedd y seremoni cau, gwrandawodd cystadleuwyr o dimau Guernsey a Menorca ar fws llawn Cymry yn canu caneuon yr holl ffordd adref i’n gwesty. Yn wir, mae gwylio wynebau pobol o wledydd neu ynysoedd eraill wrth bod bws llawn Cymry yn canu mor ddifyr.

Fel hanesydd, roedd hefyd apêl i ddarganfod tipyn o’r hanes lleol yn y Swistir ac Orkney. Roedd cofeb llew nodedig i’w gweld yn y dref. Yn ystod y Chwyldro Ffrengig a gyrhaeddodd i’r Swistir, lladdwyd 800 o filwyr byddin y Swistir wrth amddiffyn y brenin ym Mharis, ac yn 1821 agorwyd y gofeb ar ei cyfer. Mae’r gofeb o fewn gardd ddistaw llawn coed a phwll gyda physgod i greu ardal heddychlon i weld y llew â gwyneb trist.

Fel pob profiad, dydy pob moment ddim yn berffaith. Doedd cerdded 2.5km trwy Luzern ddim mor gyfforddus mewn gwres 30 gradd. Doedd teithio am bron i 20 awr ar y ffordd adref o Orkney ar ôl wythnos o bêl-droed poeth, blinedig ac yn dilyn anaf i’r ffêr ddim yn hawdd. Roedd cysgu mewn neuadd ysgol am wythnos gyda 17 o ferched eraill yn sialens. Roedd hyd yn oed gwylio’r gêm gyntaf yn erbyn yr Iseldiroedd yn brawf i’r nerfau. Ond, i gael gwisgo’r ddraig goch ar y frest gyda Chymry eraill, canu caneuon ar fysiau mewn ardaloedd newydd trwy gael gwylio a chwarae pêl-droed i gyd werth pob math o wres, anaf neu flinder yn y byd!

Beth Angharad Jones