Skip to main content Skip to footer
9 Medi 2023

“Mae gennym gymaint o waith i’w wneud, a gallwn ddefnyddio’r daith i Alabama fel ysbrydoliaeth i ni yng Nghymru.”

ADD ALT HERE

I nodi 60 mlynedd i’r mis ers lladdwyd pedwar plentyn mewn ymosodiad hiliol ar Eglwys y Bedyddwyr yn Birmingham, Alabama; ar ddydd Sul, 10 Medi bydd Emily Pemberton, Cydlynydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth y Coleg Cymraeg ymhlith criw o Gymru fydd yn mynd ar daith Neges Heddwch Urdd Gobaith Cymru i Alabama i gwrdd â rai o bobl ifanc y ddinas, i ddangos eu cefnogaeth, ac i glywed am eu profiadau yno heddiw.

Cawsom sgwrs gydag Emily i ddysgu mwy am y cysylltiad rhwng Cymru ac Alabama, a’i gobeithion wrth iddi edrych ymlaen at fynd ar y daith fythgofiadwy...

Beth yw’r cysylltiad rhwng Cymru ac Alabama?

Pan fomiwyd yr Eglwys yn 1963 gan aelodau o’r Klu Klux Klan, bu ymateb chwyrn ar draws y byd, a phan gyrhaeddodd y newyddion John Petts, yr artist gwydr o Gymru, fe benderfynodd ddylunio ffenestr wydr yn portreadu Iesu Grist du fel rhodd o gefnogaeth i’r eglwys a’i phobl. Mae hwn yn weithred o solidariaeth dylem i gyd gofio, ac mae’r frwydr tuag at gydraddoldeb dal ar waith yma yng Nghymru. Ers hynny, mae’r bartneriaeth wedi bod yn gryf rhwng Cymru a’r gymuned yn Alabama, ac mae hyn wedi ei atgyfnerthu diolch i waith yr Urdd yn ddiweddar. Mae’r daith yma’n bwysig yn enwedig oherwydd thema Neges Heddwch yr Urdd y flwyddyn hon yw ‘gwrth-hiliaeth’, ac mae’r Coleg Cymraeg yn cefnogi arfer da yn y maes cydraddoldeb a gwrth-hiliaeth. Mae gennym gymaint o waith i’w wneud, a gallwn ddefnyddio’r daith yma fel ysbrydoliaeth.

 

Beth fyddi di’n ei wneud yno?   

Byddwn ni’n ymweld â nifer o leoliadau pwysig a dwi wedi trefnu siarad gyda nifer o wahanol bobl fydd yn siŵr o fy ysbrydoli yn fy ngwaith presennol fel Cydlynydd Cydraddoldeb a Gwrth-hiliaeth gyda’r Coleg Cymraeg. Byddaf yn mynychu gwasanaeth coffa yn yr eglwys a gafodd ei fomio a lladd pedair merch ifanc; byddaf yn ymweld â thŷ Rosa Parks, Pont Edmund Pettus, a’r brifysgol yn Alabama.

Sut wyt ti’n teimlo am y daith a’r lleoliadau fyddi di’n ymweld â nhw?

Rwy’n edrych ymlaen yn fawr, ac rwy’n siŵr byddaf yn teimlo’n emosiynol iawn wrth ymweld â’r eglwys a gweld y ffenest o Gymru, y ‘Wales Window’ fel mae’n cael ei adnabod. Dwi’n pryderu braidd am y themâu anodd - byddwn yn trafod hiliaeth ac anghydraddoldeb ar y daith ac er fy mod i’n gweithio o fewn y maes cydraddoldeb dyw e ddim yn meddwl bod o’n hawdd delio efo’r themâu yma bob dydd. Ond, byddaf yna efo cyd-weithwyr lle dwi’n siŵr bydden nhw’n rhannu’r un pryderon felly gallwn gefnogi ein gilydd.  Dwi hefyd yn edrych ymlaen am y pethau hwyliog byddwn yn ei wneud, yn cynnwys mynd i em pêl-droed Americanaidd! Dwi wedi bod yn monitro’r tywydd ac mae’n chwilboeth yna ar hyn o bryd, felly dwi ddim yn edrych ymlaen at y gwres! Ond dwi’n clywed bod yr air conditioning ymlaen o hyd felly tra bod ni tu fewn byddaf yn gallu ymdopi!

 

Beth hoffet ti ddysgu o’r daith?

Hoffwn weld sut mae pethau yn Birmingham wedi newid ers 1963, os o gwbl. Dwi’n gwybod bod problemau yn parhau, ond i ba raddau, ac oes modd eu gwyrdroi? Hoffwn hefyd weld pwy sydd wir yn arwain yr ymdrech yno dros gydraddoldeb? Ai arweinwyr gwleidyddol, actifyddion, pobl ifanc, myfyrwyr, neu eraill efallai? Ar lefel gyffredinol, mae Birmingham yn cael ei weld yn weddol aml am ei gysylltiad efo’r Mudiad Hawliau Sifil, a yw hwn yn broblematig? Hoffwn hefyd wybod sut mae’r trigolion yn teimlo am y ddinas. Oes angen i ni beidio diffinio Birmingham ar sail ei hanes a gadael i’r bobl sy’n byw yno diffinio’r ddinas yn eu termau nhw eu hunain? Mae gen i gymaint o gwestiynau i ofyn, ac edrychaf ymlaen at ddysgu ar y daith a defnyddio fy ngwybodaeth nôl yng Nghymru i weithio tuag at ddyfodol cynhwysol. Fy rôl i yn y Coleg ydy ceisio sicrhau bod addysg ôl-orfodol cyfrwng Cymraeg ar gael ac yn hygyrch i bawb beth bynnag eu cefndir. Bydd dysgu mwy am y digwyddiadau mawr yn hanes y Mudiad Hawliau Sifil yn rhoi cyd-destun i’r gwaith hwnnw ac yn fy ysbrydoli i.