DYDDIAD: 16/05/2025
LLEOLIAD: Prifysgol Abertawe
Bydd y gweithdy hwn dan ofal Dyddgu Morgan-Hywel o fudd i ymchwilwyr sydd yn camu i’r byd addysgu am y tro cyntaf, ac eisiau addysgu’n hyderus ac yn arloesol wrth ddatblygu ar lawr y dosbarth ac ar-lein.
AMCANION Y GWEITHDY
- Gwybodaeth broffesiynol: datblygu eich gwybodaeth am y pwnc y byddwch yn ei ddysgu;
- Gwybodaeth fethodolegol - cyflwyniad i theori sy'n sail i ddysgu ac arferion addysgu (arddulliau dysgu)
- Sgiliau dynameg grŵp penodol - dynameg grŵp, strategaethau ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd;
CYNNWYS
Dysgu, addysgu ac asesu
- Dysgu'r sgiliau allweddol sy'n ymwneud â chynllunio gwaith addysgu;
- Dysgu'r amrywiaeth o sgiliau cwestiynu sy'n hwyluso'r broses addysgu.
- Dod yn gyfarwydd ag amrywiaeth o ddulliau addysgu gyda grwpiau bach;
- Dod i ddeall rhai egwyddorion allweddol sy'n ymwneud ag asesu.
Integreiddio Technoleg. Cyflwyniad i offer a meddalwedd digidol er mwyn ymgysylltu myfyrwyr a gwella’r profiad dysgu gan gynnwys:
- Deallusrwydd Artiffisial (AI) mewn Addysg
- Realiti Rhithwir (VR) mewn Addysg
- Technoleg Iaith
Cynhwysiant Addysgu:
- Cyflwyno Sgiliau addysgu cynhwysol
- Anghenion dysgu amrywiol ac anghenion myfyrwyr
- Hyrwyddo amgylchedd cynhwysol.
Gofal bugeiliol – Tiwtor personol / iechyd a lles myfyrwyr mewn Addysg
- Deall rhinweddau personol tiwtor da;
- Deall canfyddiadau myfyrwyr o diwtor da;
- Deall y sgiliau cyfathrebu allweddol sydd eu hangen ar diwtor da;
BYWGRAFFIAD
Astudiodd Dyddgu gwrs ‘BSc (Anrh.) Dylunio a Thechnoleg Addysg Uwchradd yn arwain at Statws Athro Cymwysedig’ ym Mhrifysgol Bangor, a graddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf. Bu’n ddarlithydd a thiwtor pwnc Dylunio a Thechnoleg Lefel A yng Ngholeg Meirion Dwyfor, athrawes Dylunio a Thechnoleg yn Ysgol Gyfun Rhydywaun, ac yn uwch-ddarlithydd Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd am ddeng mlynedd. Mae Dyddgu bellach yn Rheolwr Comisiynu ac Ansawdd gyda Adnodd, cwmni hyd braich Llywodraeth Cymru sydd â throsolwg strategol dros dirwedd adnoddau dwyieithog i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru.
Mae’r gweithdy am ddim ac yn agored i fyfyrwyr uwchraddedig ac ymchwilwyr gyrfa gynnar, beth bynnag yw dy bwnc, ble bynnag wyt ti'n astudio, a phwy bynnag sy'n dy gyllido. Darperir cinio am ddim ac ad-delir costau teithio.
Dyddiad cau i gofrestru: dydd Mawrth, 6 Mai