Skip to main content Skip to footer
Mân lun rhaglen Sgiliau Ymchwil

Cwrs sgiliau ymchwil i fyfyrwyr ôl-radd (3/4)

Dydd Mawrth, 10 Rhagfyr 2024 - Dydd Mercher, 11 Rhagfyr 2024
Mân lun rhaglen Sgiliau Ymchwil

Dyddiad: 10–11 Rhagfyr 2024

Lleoliad: Caerdydd

Cwrs preswyl ar gyfer myfyrwyr ôl-radd i ddysgu a datblygu sgiliau ymchwil.

Gweithdai'r cwrs: 

Ysgrifennu academaidd - Dr Siwan Rosser

Bydd y gweithdy hwn o ddiddordeb i unrhyw un sydd yn bwriadu datblygu sgiliau ysgrifennu academaidd yn y Gymraeg. Nid gweithdy gloywi iaith mohono, er y bydd yn rhoi sylw i strategaethau ynghylch gwella safon eich Cymraeg ysgrifenedig.

 

Ymchwil a chyhoeddi - Dr Jonathan Morris a Dr Emyr Lloyd-Evans

Drwy gyfosod dau faes ymchwil a dau gyd-destun cyhoeddi gwahanol iawn, bydd y gweithdy hwn yn amlinellu prif ofynion cyhoeddi ymchwil academaidd mewn meysydd gwahanol ynghyd â thrafod rhannu ymchwil â’r cyhoedd. 

 

Sgiliau Microsoft i fyfyrwyr ôl-radd - Dafydd Lewis (Illumino IT)

Amcanion y gweithdy yw cyflwyno nodweddion defnyddiol yn Word a Powerpoint mewn cyd destun gwaith academaidd  

 

Sgiliau ysgrifennu 1:1 - Dr Angharad Watkins

Mae’r sesiwn hon yn gyfle arbennig i’r sawl sy’n dymuno arweiniad ar ysgrifennu mewn arddull academaidd yn y Gymraeg. Bydd Angharad yn cynnig sylwadau 1 i 1 ar ddarn penodol o waith a baratowyd gennych o flaen llaw, gan roi arweiniad ar arddull, mynegiant a chywair. 

 

Paratoi a chyflwyno papur cynhadledd - Dr Ffion Eluned Owen

Bydd y gweithdy hwn o ddiddordeb i fyfyrwyr PhD a staff academaidd sydd ar gychwyn eu gyrfa mewn unrhyw faes academaidd. Cynigir cyngor ar gynllunio papur ymchwil ac ar fanteisio ar gyfleon i gyflwyno mewn cynhadledd.

 

Trefnu a rheoli eich ymchwil - Dr Kate Evans

Bydd y gweithdy hwn o ddefnydd i fyfyrwyr ôl-radd sydd newydd gychwyn, neu sydd yng nghanol eu hymchwil doethur.  Bydd y sesiwn yn trafod heriau ymchwil hir dymor, ac yn cynnig cyngor ymarferol ar gyfer ymdopi â rhai o’r heriau sy’n wynebu ymchwilwyr wrth iddynt geisio creu amserlen bersonol a chadw cydbwysedd rhwng gofynion gwaith ac ymchwil, a diddordebau bywyd allgyrsiol. 

 

Cynllunio, strwythuro ac ysgrifennu'r PhD - Dr Kate Evans 

Yn y sesiwn hwn, byddwn yn edrych yn ddyfnach ar strwythur y traethawd ymchwil, ac yn ystyried gwahanol strategaethau ar gyfer mynd ati i gynllunio ac ysgrifennu. Mae’r amrywiaeth o ofynion ac arddulliau ymchwilio ac ysgrifennu ar draws gwahanol meysydd ymchwil a phynciol yn galw am ymatebion penodol ar gyfer ysgrifennu, strwythuro, ac ymdrin â ‘data craidd’. Byddwn yn trafod y rhain yn eu tro, ac yn taflu golau ar rai o’r technegau ysgrifennu all helpu i hwyluso’r broses. 

 

Cynllunio holiaduron, cyfweliadau a grwpiau ffocws - Róisín Roberts (Data Cymru)

Nod y sesiwn hon yw eich cyflwyno i rai awgrymiadau, offer ac adnoddau gorau i'ch helpu i ddylunio a chynnal arolygon.

 

Cyflwyniad i Python - Dr Geraint Palmer 

Amcan y sesiwn yw cyflwyno technegau dadansoddi data effeithiol ac ailgynhyrchiadwy mewn Python, sef iaith rhaglennu ffynhonnell agored boblogaidd. 

 

Cofrestra drwy'r gwblhau'r ffurlfen isod.