Skip to main content Skip to footer
Mân lun rhaglen Sgiliau Ymchwil

Cwrs sgiliau ymchwil i fyfyrwyr ôl-radd (4/4)

Dydd Mercher, 28 Ionawr 2026 - Dydd Iau, 29 Ionawr 2026
Mân lun rhaglen Sgiliau Ymchwil

Dyddiad: 28 – 29 Ionawr 2026

Lleoliad: Bangor

Cwrs preswyl ar gyfer myfyrwyr ôl-radd i ddysgu a datblygu sgiliau ymchwil.

 

Gweithdai'r cwrs:

Paratoi at y Viva - Dr Hefin Jones

Amcanion y gweithdy hwn yw hyfforddi sut i baratoi at, a goroesi, arholiad y Viva yn llwyddiannus drwy drafod beth yw diben y Viva, sut i dawelu'r nerfau, a sut i baratoi. Bydd hefyd cyfle i ymarfer ateb cwestiynau amlwg. 

 

Grantiau ac Effaith - Dr Rhian Hodges a Dr Cynog Prys

Mae'r gweithdy hwn yn trafod camau allweddol y broses o baratoi ceisiadau grant, e.e. sut i adnabod ffynonellau grantiau yn eich maes a phwysigrwydd creu strategaeth ceisio am grantiau. Ynghyd â thrafod grantiau, mae'r gweithdy hefyd yn ymdrin â maes effaith ymchwil (research impact) gan gynnwys cynnig enghraifft o astudiaeth achos effaith a thrafod pwysigrwydd paratoi'n drylwyr at y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF).

 

Cynllunio gyrfa a chwilio am swyddi - Mari Gwenllian Roberts

Yn y gweithdy yma, bydd cyfle i ystyried y broses o gynllunio eich gyrfa, p’un a ydych chi’n gwybod beth hoffech chi ei wneud yn y dyfodol neu heb wneud penderfyniad eto. Gan gwblhau ymarferion hunan-asesu, bydd cyfle i chi gynyddu eich hunan-ymwybyddiaeth o’ch sgiliau cyflogadwyedd. Byddwn hefyd yn edrych ar strategaethau defnyddiol i chwilio am swyddi.

 

Paratoi CV a chais effeithiol am swydd - Elinor Churchill

Yn y gweithdy yma, byddwn yn edrych ar sut i baratoi CV a chais effeithiol, a chael cyfle i ddadansoddi yr hyn mae cyflogwr yn ei chwilio am wrth hysbysebu swyddi. Bydd y gweithdy ymarferol yma yn cael ei chynnal mewn ystafell gyfrifiaduron er mwyn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich CV a dogfennau cais yn ystod y gweithdy a derbyn adborth gan Ymgynghorwyr Cyflogadwyedd.

 

Cyfathrebu a rhwydweithio digidol effeithiol - Elinor Churchill

Yn y gweithdy yma byddwn yn edrych ar sut i rwydweithio’n effeithiol, gan gynnwys defnydd effeithiol o gyfryngau cymdeithasol wrth chwilio am swyddi, wrth hyrwyddo’ch gwaith ymchwil, ac fel rhan o’ch datblygiad proffesiynol. Byddwn yn edrych ar wahanol blatfformau digidol i hwyluso y broses o rwydweithio a codi eich proffil ar-lein.

 

Cyflwyno'ch hun yn broffesiynol mewn cyfweliad - Mari Gwenllian Roberts 

Yn y gweithdy yma byddwn yn edrych ar wahanol fathau o gyfweliadau, dysgu mwy am sut i ddarparu’n effeithiol, a dulliau i ymateb i wahanol steiliau o gwestiynau cyfweliad. Bydd cyfle i ymarfer defnyddio sgiliau cyfathrebu effeithiol i ateb cwestiynau cyffredin i sector perthnasol i'ch pwnc a chael cyfle i gael adborth gan eich cyd-ymchwilwyr. 

 

Sgwrs gyda chyn-fyfyrwyr 

Cyfle i glywed gan gyn-fyfyrwyr PhD am eu profiad a'u cyngor. 

 

Mae croeso mawr i unrhyw fyfyriwr ôl-radd! I ymuno, cwblha'r ffurflen gofrestru isod cyn 16 Ionawr.

Am ragor o wybodaeth, cysyllta â m.james@colegcymraeg.ac.uk