Skip to main content Skip to footer
Mân lun rhaglen Sgiliau Ymchwil

Cwrs sgiliau ymchwil i fyfyrwyr ôl-radd (3/4)

Dydd Mercher, 13 Rhagfyr 2023 - Dydd Iau, 14 Rhagfyr 2023
Mân lun rhaglen Sgiliau Ymchwil

Dyddiad: 13–14 Rhagfyr 2023

Lleoliad: Caerdydd

Cwrs preswyl ar gyfer myfyrwyr ôl-radd ac ymchwilwyr gyrfa gynnar i ddysgu a datblygu sgiliau ymchwil.

Sesiynau'r cwrs: 

 

Ysgrifennu academaidd yn y Gymraeg – Dr Siwan Rosser

Bydd y gweithdy hwn o ddiddordeb i unrhyw un sydd yn bwriadu datblygu sgiliau ysgrifennu academaidd yn y Gymraeg. Nod y gweithdy yw diffinio prif nodweddion Cymraeg academaidd, datblygu dulliau i wella Cymraeg academaidd, a thrafod ieithwedd gwahanol fathau o destunau academaidd.

 

Ymchwil a chyhoeddi – Dr Jonathan Morris

Nod y gweithdy hwn yw amlinellu prif ofynion cyhoeddi ymchwil academaidd mewn meysydd gwahanol ynghyd â thrafod rhannu ymchwil â’r cyhoedd.  

Sgiliau Microsoft i fyfyrwyr ymchwil – Dafydd Lewis

Cyflwynir nodweddion defnyddiol yn Word, Excel a Powerpoint mewn cyd-destun gwaith academaidd yn y gweithdy hwn.

 

Yr ymchwilydd ansoddol – Dr Siôn Jones

Amcanion y gweithdy yw cyflwyno mathau gwahanol o ddulliau ansoddol, amlinellu’r hyn sydd angen ei ystyried cyn, yn ystod ac ar ôl cynnal ymchwil ansoddol, ystyried y materion moesegol sydd y gysylltiedig ag ymchwil ansoddol, ac amlinellu sut i ddadansoddi a chyflwyno data ansoddol. 

 

Cyflwyno ymchwil wyddonol – Bedwyr ab Ion

Gweithdy yn arbennig i wyddonwyr ar sut i gyflwyno eu gwaith ymchwil.

 

Cyrchu a deall archifau - Alan Vaughan Hughes 

Nod y gweithdy yw codi ymwybyddiaeth o ‘archifau’ fel ffynonellau ymchwil uniongyrchol a sut maent yn wahanol i ddeunydd llyfrgell. Yn rhan o’r sesiwn ceir taith tu ôl y llenni i Gasgliadau Arbennig ac Archifau, Prifysgol Caerdydd.

 

Cynllunio, trefnu a rheoli eich PhD  - Dr Kate Evans

Bydd y sesiwn yn trafod rhai o’r heriau sy’n wynebu ymchwilwyr wrth iddynt geisio creu amserlen bersonol a chadw cydbwysedd rhwng gofynion gwaith ac ymchwil, a diddordebau bywyd allgyrsiol.  

 

Ysgrifennu a chyflwyno papur cynhadledd – Dr Ffion Eluned Owen

Bydd y gweithdy hwn o ddiddordeb i fyfyrwyr PhD a staff academaidd sydd ar gychwyn eu gyrfa mewn unrhyw faes academaidd. Cynigir cyngor ar gynllunio papur ymchwil ac ar fanteisio ar gyfleon i gyflwyno mewn cynhadledd. 

 

Cofrestra drwy'r ddolen isod erbyn 1 Rhagfyr 2023