Cydweithio trwy'r Gymraeg: Aseswyr a Chyflogwyr
Ymunwch gyda ni ar gyfer lansiad ein hadnodd newydd, Pecyn Prentis. Mae'r adnodd yn cynnwys gwybodaeth a chefnogaeth ar sut gall darparwyr ac aseswyr gyd-weithio gyda chyflogwyr i’w darbwyllo fod y Gymraeg yn sgil gwerthfawr ac effaith hynny ar ddewisiadau iaith y Prentis.
Dan arweiniad Berni Tyler, Cyfarwyddwr Consortiwm B-wbl mi fydd panel o aseswyr, prentisiaid a chyflogwyr yn rhannu arfer dda ac yn trafod sut maent yn defnyddio’r adnodd i hwyluso eu gwaith.
*Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael.
Am fanylion pellach, cysyllta gyda Haf Everiss (h.everiss@colegcymraeg.ac.uk)
Dyddiad: 18 Mehefin
Lleoliad: Ar-lein
Amser: 15:30 - 16:30
Cofrestra drwy gwblhau'r ffurflen isod.