Skip to main content Skip to footer
Man Lun Cynhadledd

Cymraeg y Cyfryngau Heddiw

Dydd Gwener, 27 Mawrth 2026
Man Lun Cynhadledd

Dyddiad: Dydd Gwener, 27 Mawrth 2026

Lleoliad: Prifysgol Caerdydd (Canolfan Addysgu Ôl-raddedigion Ysgol Busnes Caerdydd)

Amser: 9.30-16.00

Bwriad y gynhadledd undydd hon fydd dwyn ynghyd academyddion ac arweinwyr yn y diwydiannau creadigol er mwyn trafod agweddau amrywiol ar Gymraeg y cyfryngau heddiw.

Bydd y digwyddiad yn gyfuniad o baneli arbenigol a chyflwyniadau unigol ac yn cynnwys cyfraniadau gan siaradwyr ieithoedd lleiafrifol eraill er mwyn gosod sefyllfa Cymru heddiw mewn cyd-destun rhyngwladol.

Bydd pynciau trafod yn cynnwys y defnydd o ganllawiau iaith, sut i gyrraedd y gynulleidfa gyfan, profiadau o gyfleu'r llafar mewn llythrennau, yn ogystal â'r heriau sy'n codi wrth geisio taro cyweiriau addas mewn cyd-destun mwyfwy amlblatfform.   

Mwy o fanylion yn fuan. 

Cydnabyddir cefnogaeth ariannol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac S4C tuag at y digwyddiad hwn.