Skip to main content Skip to footer
Man Lun Gŵyl yr Haf

Cynhadledd Chwilen yn y Glust

Dydd Gwener, 23 Ionawr 2026
Man Lun Gŵyl yr Haf

Dyddiad: 23 Ionawr 2026

Lleoliad: Galeri Arad Goch, Aberystwyth, SY23 2NN

Amser: 9.30am-4pm

Cynhadledd undydd fydd yn archwilio'r berthynas rhwng gwyddoniaeth a'r celfyddydau.

Rhan o brosiect rhyngddisgyblaethol gan Dr Gethin Thomas a Dr Miriam Elin Jones, Prifysgol Abertawe, o dan nawdd Grant Cydweithredol y Coleg.

Prif Siaradwr: Yr Athro Iwan Rhys Morus 'Gorffennol y Dyfodol: Blwyddyn 2000 y Fictoriaid'

Mae yna groeso cynnes i bawb â diddordeb trafod perthynas gwyddoniaeth a'r celfyddydau, boed yn ymchwilwyr, ymarferwyr creadigol neu fyfyrwyr. Ffurflen gofrestru isod. 

 

AMSERLEN Y DYDD

9.30-10.00: Cofrestru a Chroeso

10.00-11.00: Darlith y Prif Siaradwr - Gorffennol y Dyfodol: Blwyddyn 2000 y Fictoriaid - Yr Athro Iwan Rhys Morus

11.00-12.00: Papurau’r Bore:

  • Cafflogion a Teilhard de Chardin – Dr Roger Owen a Dr Dafydd Sills-Jones
  • Almanaciau’r ddeunawfed ganrif a hinsawdd yr Ymoleuedigaeth – Dr Cathryn Charnell-White

12.00-12.45 – CINIO

12.45 – 1.30: Panel Y Gwesteiwr Olaf: Parasitiaid a Phosibiliadau Ffuglennol – Dr Gethin Thomas, Louise James a Dr Aneirin Karadog

1.30-2.30: Papurau’r Prynhawn:

  • Yr Estrom Ynom - Yr Athro Angharad Puw Davies
  • Barddoniaeth am Beiriannau Lladd yn y Rhyfel Mawr - Dr Gethin Matthews

2.30 – 2.45pm: EGWYL

2.45 – 3.30: Panel Cyfoethogi’r Ffeithiau: Ymateb yn Greadigol i’r Gwyddorau - Dr Miriam Elin Jones, Dr Rhian Meara, Dr Grug Muse, a Dr Hywel Griffiths

3.30 – 3.45pm GAIR I GLOI

Rhaglen y Gynhadledd