Skip to main content Skip to footer
Eicon Cynhadledd Cyfathrebu Chwaraeon Menywod

Cynhadledd Cyfathrebu Chwaraeon Menywod 2026

Dydd Iau, 19 Mawrth 2026
Eicon Cynhadledd Cyfathrebu Chwaraeon Menywod

Cynhadledd Cyfathrebu Chwaraeon Menywod

19 Mawrth 2026

Canolfan Taliesin, Prifysgol Abertawe SA2 8PZ

Cynhadledd yn Gymraeg i fyfyrwyr cyfryngau, newyddiaduraeth a’r rheiny sydd â diddordeb mewn cyfathrebu chwaraeon. Mae croeso hefyd i ddisgyblion 6ed dosbarth sydd â diddordeb yn y maes.

Ydych chi’n gwybod beth yw’r ffordd orau o gyfathrebu gyda chwaraewyr ac athletwyr? Beth yw’r llwybr gyrfa posib at fod yn sylwebydd neu yn gynhyrchydd chwaraeon? Sut mae sicrhau bod chwaraeon menywod yn cael sylw?

Yn y gynhadledd hon byddwn yn ceisio ateb rhai o’r cwestiynau hyn ac yn clywed am ymgyrch tîm Cymru wrth baratoi ar gyfer Gemau’r Gymanwlad eleni.  

Amserlen

10.00 - 10.15: Cyrraedd a chofrestru

10.15 - 11.00: Sesiwn 1 – cyfweliad gyda’r cyflwynydd chwaraeon Sioned Dafydd

11.00 - 11.30: Paned a sgwrs

11.30 - 12.15: Sesiwn 2 – panel gyda Sioned, y cyflwynydd a chynhyrchydd chwaraeon Gabriella Jukes, ac aelodau o Dîm Cymru i Gemau'r Gymanwlad 2026.

 

12.15: Cinio - pawb i ddod â phecyn bwyd neu fwyta ar y campws 

 

13.00 Gweithdai - bydd pawb yn mynd i'r 3 gweithdy, A, B, ac C. Mae pob gweithdy yn para 30 munud. Ar ôl mynychu un gweithdy bydd y grŵp yn symud i'r gweithdy nesa' ac yna'r drydedd.

* Gweithdy 'Sut i Sylwebu' gyda Sgorio a Dylan Ebenezer

* Gweithdy 'TikTok Chwaraeon' gyda Gabriella

* Gweithdy 'Cynhadledd i'r Wasg' gyda Tîm Cymru

 

14.45: Cloi 

15.00: Gorffen

 

Trafnidiaeth

Bydd myfyrwyr yn cael eu had-dalu am eu teithiau trên o Gaerdydd. Gall ysgolion hawlio £50 fel cyfraniad ar gyfer tanwydd bws mini neu drafnidiaeth cludo criw o ddisgyblion o’r ysgol - cysylltwch â Siôn Jobbins isod am fanylion.

Cofrestru:

Llenwch y ffurflen ar-lein yma. Mae’r digwyddiad yn uniaith Gymraeg.

Gwybodaeth bellach:

Siôn Jobbins: s.jobbins@colegcymraeg.ac.uk 07815 85 78 21