Skip to main content Skip to footer
Testunau'r Enfys logo

Cynhadledd Testunau'r Enfys

Dydd Sadwrn, 5 Gorffennaf 2025 - Dydd Sadwrn, 5 Gorffennaf 2025
Testunau'r Enfys logo

Y Prosiect

Mae Cynhadledd Testunau’r Enfys yn ran o brosiect cydweithredol sy’n archwilio cynrychiolaeth LHDTC+ a hunaniaethau a chroestoriadau yn y canon llenyddol Cymraeg. Mae’n rhoi sylw i ystod o destunau llenyddol hanesyddol a chyfoes.

Nod y prosiect yw ysgogi ymchwil newydd a chefnogi a mentora cyfranwyr Gweithdy Testunau’r Enfys a gynhaliwyd ym mis Medi 2024 i ddatblygu eu cyfraniadau academaidd neu greadigol. 

 

Tîm Testunau'r Enfys

Mae’r prosiect hwn yn adeiladu ar arbenigedd addysgu ac ymchwil tîm profiadol:

Cathryn A. Charnell-White (Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth): ymchwil ar rywedd a llenyddiaeth hanesyddol a chyfoes i fenywod.

Gareth Llŷr Evans (Adran Theatr Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth): ymchwil i theatr gyfoes a pherfformiad gan ddefnyddio damcaniaethau a fframweithiau queer.

Gareth Evans-Jones (Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Bangor): ymchwil ar rywedd, caethwasiaeth, Cymru ac UDA; awdur a golygydd y casgliad cyntaf o lenyddiaeth LGBTQ+ yn Gymraeg, Curiadau (2023).

Rhiannon Marks (Ysgol Gymraeg Prifysgol Caerdydd): ymchwil ar rywedd a rhywioldeb mewn llenyddiaeth gyfoes a phrosiect 'Reading Identities' a noddir gan yr AHRC.

Mwy o wybodaeth: http://colegcymraeg.ac.uk/testunau_enfys