Skip to main content Skip to footer
mân lun cynhadledd wyddonol

Cynhadledd Wyddonol 2023

Dydd Iau, 15 Mehefin 2023
mân lun cynhadledd wyddonol

Bwriad y gynhadledd yw rhoi llwyfan i ymchwil wyddonol flaenllaw gan wyddonwyr Cymraeg. Mae rhoi’r cyfle i wyddonwyr drin a thrafod y Gwyddorau drwy gyfrwng y Gymraeg yn greiddiol i’r Coleg ers ei sefydlu ac mae’r gynhadledd yn mynd o nerth i nerth. O ddylunio cyffur newydd i drafod micro-blastig, mae’n gyfle i ni drin a thrafod amrywiol destunau o fewn y Gwyddorau.

Eleni, mi fydd y gynhadledd yn un hybrid ac yn cael ei chynnal yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ar Ddydd Iau 15 Mehefin 2023 (09:30-15:45).

Cynhelir y gynhadledd yn y Gymraeg ac mi fydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael. Mae croeso cynnes i bawb sy’n ymddiddori yn y gwyddorau i gofrestru ar gyfer y gynhadledd drwy ddilyn y ddolen isod. Bydd opsiwn i ddatgan a ydych am ymuno â ni wyneb yn wyneb neu ar-lein. Mae modd cofrestru gan lenwi'r ffurflen gofrestru isod. 

Galwad i gyfrannu
Mae’r dyddiad cau i gyflwyno yn y Gynhadledd bellach wedi cau. Yn ystod y gynhadledd mi fydd cyflwyniadau ar bynciau amrywiol o fewn y maes gwyddonol (STEM). Mi fydd rhaglen yn cael ei rannu cyn y Gynhadledd.

Cystadleuaeth Posteri
Dylai’r poster fynegi syniad gwyddonol trwy gyfrwng y Gymraeg. Gellir defnyddio poster sydd eisoes wedi cael ei greu yn barod fel rhan o fodiwl.

Bydd dwy gystadleuaeth poster; un i fyfyrwyr israddedig ac un i fyfyrwyr ôl-raddedig.

Bydd gwobr o £50 yr un i enillwyr y ddau gategori. Mae canllawiau pellach isod.

Cyfrannwyr 

  • Bedwyr ab Ion Thomas - Datblygu therapïau i drin clefydau Prion (neu, sut i greu angenfilod er mwyn brwydro yn erbyn zombies!)
  • Llinos Honeybun - Datblygu Sgrin Cyffuriau ar Gyfer Clefyd Prin CLN3

  • Aled Lloyd - Astudiaethau cyfrifiadurol o ymrwymo cyffuriau yn aquaporin 1 dynol

  • Cai Stoddard-Jones - Datgloi’r mecanweithiau mewnol o allyriadau ‘centaur’ 29P/Schwasasmann-Wachmann.

  • Liam Edwards - Eclips yn amser COVID - arsylwadau golau polareiddiedig o gorona'r Haul yn ystod yr eclips llwyr ar Ragfyr 14eg 2020

  • Megan Kendall - Deall Ffurfiad Ocsid ar Diwbiau Dur Carbon yn ystod Prosesu Tymheredd Uchel

  • Oliver Tomos Wright - Ehangiad Rhydocs Cydweithredol a Arddangosir mewn Catalysis Deufetel

  • Carwyn Sion Hughes - Datblygu Nanofeddyginiaethau Newydd i Dargedu Cancer y Fron

  • Maisie Edwards - Pwysigrwydd defnydd y Gymraeg o fewn darpariaeth gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol, yn benodol meddygaeth teulu.

  • Dr Eifiona Thomas Lane a Rebecca Jones - Profiadau Bwyd Cymru, Cynnal Cymuned a Lle: Dadansoddiad Targedau Cenedlaethau'r Dyfodol.