Dyddiad: 24/03/26
Amser: 18:00
Lleoliad: Theatr Halliwell, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Ffordd y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3EP.
Eleni, bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dathlu pymtheg mlynedd ers ei sefydlu yn 2011, a bydd cyfres o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn ystod y flwyddyn.
Fel man cychwyn cofnodi’r garreg filltir hon cynhelir Cynulliad Blynyddol y Coleg am
18:00 nos Fawrth, 24 Mawrth 2026, yn Theatr Halliwell, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Ffordd y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3EP.
Yn ystod y noson, bydd y Coleg yn cydnabod Cymrodyr er Anrhydedd am waith a chyfraniad oes yn y maes addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg. Hefyd cofnodir llwyddiant myfyrwyr ymchwil sydd wedi cyflawni doethuriaethau o dan nawdd y Coleg. Erbyn hyn, mae yn agos at 200 o fyfyrwyr wedi derbyn cefnogaeth drwy’r cynllun hwn.
Cofrestrwch eich presenoleb islaw cyn 13 Mawrth