Skip to main content Skip to footer
traethawd tri munud, logo coleg cymraeg, logo cymdeithas ddysgedig

Cystadleuaeth Traethawd Tri Munud

Dydd Iau, 7 Awst 2025 - Dydd Iau, 7 Awst 2025
traethawd tri munud, logo coleg cymraeg, logo cymdeithas ddysgedig

Dyddiad: 15:00, 7 Awst 2025

Lleoliad: Stondin y Coleg yn yr Eisteddfod

Dere i wylio ymchwilwyr yn cystadlu yn erbyn ei gilydd i gyflwyno eu gwaith ymchwil mewn 3 munud!

Trefnir y gystadleuaeth gan y Coleg Cymraeg a Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Dyma gyfle i fyfyrwyr ôl-radd ac ymchwilwyr gyrfa gynnar i rannu eu gwaith gyda chynulleidfa anarbenigol mewn tri munud. 

Beirniaid: yr Athro Eleri Pryse a Dr Aled Eirug

Cystadleuwyr:

  • Teleri Owen (Hanes, Prifysgol Caerdydd)
  • Dr Tomos Wyn David (Ffiseg, Prifysgol Bangor)
  • Charles Roberts (Hanes, Prifysgol Aberystwyth)
  • Catrin Roberts (Bydwreigiaeth, Prifysgol Bangor)
  • Heledd Williams (Cymdeithaseg, Prifysgol Caerdydd)

Yn ystod y digwyddiad hefyd gwobrwyir enillydd Gwobr Gwerddon 2025.