Trefnir y gystadleuaeth gan y Coleg Cymraeg a Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar Cymdeithas Ddysgedig Cymru, ac fe'i cynhelir yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar ddydd Iau, 6 Awst am 15:30 ym Mhabell y Cymdeithasau.
Mae'r gystadleuaeth yn agored i unrhyw fyfyriwr israddedig, ôl-raddedig neu ymchwilydd gyrfa gynnar sydd wedi cwblhau, neu sy'n gweithio ar, brosiect neu draethawd ymchwil. Dylid cyfyngu cyflwyniadau i un sleid PowerPoint, a gwahoddir siaradwyr i fod yn greadigol gyda sut maent yn arddangos gwybodaeth ar y sleid hon e.e. defnyddio delweddau neu ddiagramau, yn hytrach na thestun.
Gwobr: £50
Bydd y panel beirniadu yn rhyngddisgyblaethol ac yn cynnwys rhywun o'r gwyddorau cymdeithasol, y gwyddorau a'r dyniaethau.
Ad-delir costau teithio a thocyn i'r maes i bob cystadleuydd.
Dyddiad cau i gystadlu: 12pm, 3 Gorffennaf 2026