Skip to main content Skip to footer
jane aaron

Darlith Flynyddol Edward Lhuyd 2025

Dydd Mawrth, 18 Tachwedd 2025
jane aaron

Siaradwr Gwadd: Yr Athro Jane Aaron

Lleoliad: Pontio, Prifysgol Bangor

Dyddiad: 7pm dydd Mawrth 18 Tachwedd 2025. Ceir lluniaeth ysgafn a diod wedi'r ddarlith

Teitl y ddarlith: 'Colli Gwyrddni: Ecofeirniadaeth a gwaith rhai o feirdd Cymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg'

 

Crynodeb

Yn ogystal â dadansoddi llenyddiaeth sy’n ymwneud â’r berthynas rhwng pobl a’r amgylchedd, mae nod gwleidyddol i ecofeirniadaeth, sef dyfnhau ein dealltwriaeth hanesyddol o achosion yr argyfwng amgylcheddol presennol a’n ymnerthu i wrthsefyll y rhai a fyn ei ddiystyru. Yn y ddarlith hon byddwn yn ystyried gwaith barddonol rhai o Gymry’r bedwaredd ganrif ar bymtheg y trawsffurfiwyd eu bywydau gan y chwyldro diwydiannol, ac yn gofyn a oes neges i ni heddiw yn eu hymateb hwy i golli gwyrddni?

 

Bywgraffiad

Athro Emerita yn Ysgol y Dyniaethau ym Mhrifysgol De Cymru yw Jane Aaron ac awdur Pur fel y Dur: Y Gymraes yn Llên Menywod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg a enillodd Wobr Goffa Ellis Griffith ym 1999, Nineteenth-Century Women’s Writing in Wales a enillodd Wobr Roland Mathias yn 2009, y gyfrol Welsh Gothic (2013), a’r cofiant Cranogwen a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn y categori Ffeithiol Creadigol yn 2024.

 

Ni fydd y ddarlith yn cael ei ffrydio, ond bydd ar gael i'w darllen ar Borth Adnoddau'r Coleg Cymraeg yn dilyn y digwyddiad. 

Cefnogir y digwyddiad gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru

Cofrestrwch i ymuno drwy'r ddolen isod erbyn 10 Tachwedd.