Siaradwr Gwadd: Yr Athro Paul O'Leary
Lleoliad: Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
Amser: 5.30pm dydd Mercher 27 Tachwedd 2024, ceir lluniaeth ysgafn a diod wedi'r ddarlith
Teitl y ddarlith: 'Yr Apêl at Hanes: y Presennol, y Gorffennol a Mytholeg Gynhaliol Gwleidyddiaeth Cymru'
Crynodeb
Pam fod gwleidyddion blaenllaw yn cyfeirio at hanes mor aml? A pha fath o hanes maen nhw'n apelio ato? Bydd y ddarlith hon yn dangos fod gwleidyddion yn mowldio hanes at ddibenion y presennol ac yn gweu mytholegau i gyfreithloni eu safbwyntiau heddiw. Bwriad y ddarlith yw archwilio'r mytholegau hyn mewn ymgais i ddangos sut maen nhw'n effeithio ar ein diwylliant gwleidyddol a'r drafodaeth o hanes yn y pau cyhoeddus. Dangosir sut mae gwleidyddion wedi cynhyrchu mytholegau ar gyfer y Gymru ddatganoledig mewn ymgais i greu fersiwn o'r gorffennol sy'n gweddu i'r ffordd newydd o lywodraethu'r wlad – senedd newydd, hanes newydd.
Bywgraffiad
Athro Emeritws ym Mhrifysgol Aberystwyth yw Paul O'Leary ac yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Bu'n Athro Syr John Williams yn Hanes Cymru yn Aberystwyth. Ymhlith ei lyfrau mae: yr e-lyfr Ffrainc a Chymru, 1830-1880: Dehongliadau Ffrengig o Genedl Ddi-wladwriaeth (Coleg Cymraeg Cenedlaethol, 2015); Claiming the Streets: Processions and Urban Culture in South Wales, c.1830-1880 (2012); ac Immigration and Integration: the Irish in Wales, 1798-1922 (2000). Gyda Beth Jenkins a Stephanie Ward fe gyd-olygodd y gyfrol Gender in Modern Welsh History: Perspectives on Masculinity and Femininity in Wales from 1750 to 2000 (2023).
Bydd copïau papur o'r ddarlith ar gael ar y diwrnod, a bydd modd darllen y ddarlith ar-lein ar Borth Adnoddau’r Coleg yn dilyn y digwyddiad.
Cofrestrwch i ymuno drwy'r ddolen isod.