Siaradwr Gwadd: Dr Carol Bell
Lleoliad: Darlithfa Stanley Thomas, Canolfan Bywyd Myfyrwyr, Plas y Parc, Prifysgol Caerdydd CF10 3BB
Amser: 5.30pm dydd Mercher 8 Tachwedd 2023, ceir lluniaeth ysgafn a diod wedi'r ddarlith
Teitl y ddarlith: “Her pawb i greu dyfodol cynaliadwy: gweld y patrwm a buddsoddi ar gyfer y tymor hir” (ni fydd cyfieithu ar y pryd)
Traddodir Darlith Edward Lhuyd, darlith flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chymdeithas Ddysgedig Cymru gan Dr Carol Bell. Bu Dr Bell yn gyn Reolwr Gyfarwyddwr y Global Oil & Gas Group yn y Chase Manhattan Bank (1997 i 1999) a, chyn hyn, yn bennaeth adran Ymchwil Ecwiti Ewropeaidd JP Morgan yn Llundain. Enillodd radd MA mewn Gwyddorau Naturiol (Biocemeg) o Brifysgol Caergrawnt, BA mewn Gwyddorau Daear (Daeareg) o'r Brifysgol Agored ac MA a PhD gan Sefydliad Archeoleg Coleg Prifysgol Llundain.
Yng Nghymru, mae hi'n aelod o nifer o fyrddau, gan gynnwys, Cyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi, Amgueddfa Cymru – National Museum Wales, Sefydliad Cyfarthfa, a Chymdeithas Bêl-droed Cymru, ac mae newydd ymddeol o fyrddau Banc Datblygu Cymru, Amgueddfa Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru. Mae hi hefyd ar gyngor Research England, ac ar fyrddau’r National Physical Laboratory a Museum of London Archaeology yn ogystal â thri cwmni cyhoeddus rhyngwladol.
Thema'r Ddarlith:
Mae rhai o’r datblygiadau mwyaf yn hanes dynoliaeth wedi dod o allu polymathau i adnabod patrymau mewn data o bob math, boed yn ieithyddol neu’n wyddonol. Yn ôl yng nghyfnod Edward Lhuyd cymerodd fath arbennig o feddwl i adeiladu esboniad credadwy am ddosbarthiad yr ieithoedd Celtaidd. Ychydig yn ddiweddarach, nododd Syr William Jones, gydag amser i'w sbario fel barnwr trefedigaethol yn India, y tebygrwydd rhwng Sansgrit, Groeg Hynafol a Lladin a arweiniodd at nodweddu'r grŵp Indo-Ewropeaidd o ieithoedd.
Mewn oes gydag offer gwyddonol cryfach fyth, gan gynnwys dysgu peirianyddol a’r gallu i ddilyniannu DNA, mae’r gallu i feddwl mewn ffordd wirioneddol gydgysylltiedig ar draws disgyblaethau a daearyddiaeth wedi ffrwydro. Bydd y ddarlith hon yn myfyrio beth mae hyn yn ei olygu i genedl fach fel Cymru, a gofyn os yw’r amodau yn eu lle i weld y patrwm ac uno’r dotiau i greu dyfodol pwrpasol a llewyrchus i’n cenedl.
Mae llunio polisïau i sicrhau’r canlyniad gorau i gymdeithas a’r blaned yn gofyn am baru amserlenni â’r dasg, gan wneud oes Senedd yn anghyfartal â’r dasg mewn llawer o achosion. Mae ein her fwyaf, sef mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, yn gofyn am newid system mewn cynhyrchu ynni a fydd yn cymryd degawdau. Tybed byddai hyn yn cael ei gyflawni’n well y tu allan i wleidyddiaeth plaid a chyfyngiadau’r genedl-wladwriaeth?