Dyddiad: 03/11/23
Amser: 19:30
Lleoliad: Neuadd Powis, Prifysgol Bangor
Cyngerdd arbennig i berfformio rhai o drefniannau gwerin y cyfansoddwr, Grace Williams, am y tro cyntaf erioed.
Bydd yr alawon newydd yn ogystal â rhai adnabyddus yn cael eu perfformio gan Elain Rhys, Angharad Wyn Jones, Cai Fôn Davies, Glesni Rhys Jones, Steffan Dafydd ac Aelodau o Gôr Hŷn Ieuenctid Môn
Mae'r gyngerdd yn rhan o brosiect ymchwil, ‘Ail Egni i Gerddoriaeth Grace Williams' dan arweiniad Elain Rhys, a gyllidwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
I gofrestru presenoldeb, e-bostiwch Elain Rhys ar muua63@bangor.ac.uk