Dysgwrdd Cynllun Mentora TAR AHO
Wyt ti’n astudio cwrs TAR AHO? Yn siarad Cymraeg, neu eisiau cynyddu dy hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg? Dyma’r digwyddiad i ti!
Mi fydd Sgiliaith yn ymuno hefo ni i gynnig cyngor ar sut i annog a chefnogi myfyrwyr i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg, a bydd cyfle i ti glywed gan staff profiadol sydd bellach yn addysgu'n ddwyieithog yn y sector.
Am fanylion pellach, cysyllta gyda Haf Everiss (h.everiss@colegcymraeg.ac.uk)
Dyddiad: 29 Ionawr 2025
Lleoliad: Ar-lein
Amser: 14:00 - 15:30
Cofrestra drwy gwblhau'r ffurflen isod.