Skip to main content Skip to footer
mân lun galwad am bapurau

Cynhadledd Ymchwil 2025: Galwad am bapurau

Dydd Mercher, 5 Chwefror 2025 - Dydd Iau, 24 Ebrill 2025
mân lun galwad am bapurau

Beth am gynnig papur neu boster ymchwil ar gyfer y Gynhadledd Ymchwil eleni? 

Cynhelir y Gynhadledd Ymchwil ar 27 Mehefin 2025 yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth, ac ar-lein.

Gellid cynnig un o'r canlynol: 

  • Cyflwyniad byw - 20 munud o hyd (gyda 10 munud ychwanegol ar gyfer cwestiynau) 
  • Poster Ymchwil 

Rydym yn awyddus i dderbyn cynigion gan unigolion sy'n ymchwilio i bob math o bynciau, ac sy'n cynrychioli ystod eang o brofiad - o fyfyrwyr ôl-radd sydd ond megis dechrau ar eu hymchwil, i staff academaidd sydd â blynyddoedd o brofiad ac wedi cyhoeddi'n helaeth. Mae croeso i bawb gynnig!

Mae'r Coleg Cymraeg wedi ymrwymo i egwyddorion o gydraddoldeb, amrywiaeth a gwrth-hiliaeth, ac felly rydym yn annog ceisiadau gan unigolion Du, Asiaid a Lleiafrifoedd Ethnig, yn ogystal ag unigolion o grwpiau eraill sydd wedi eu tangynrychioli.

Disgwylir i gyflwynwyr, gan gynnwys cyflwynwyr posteri, fod ar gael i gyflwyno mewn person yn Aberystwyth yn hytrach nag ar-lein. Ad-delir costau teithio a darperir llety i unigolion sy'n cyflwyno yn y Gynhadledd.

Gwobrwyir £50 i'r poster ymchwil gorau. 

Mae cyflwyniadau a phosteri Cynhadledd Ymchwil 2024 i'w gweld ar Y Porth.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Dr Manon James: m.james@colegcymraeg.ac.uk 

I gynnig papur neu boster, cwblhewch y ffurflen isod erbyn canol nos, dydd Iau, 24 Ebrill 2025.