Skip to main content Skip to footer
llun i'w gynnwys

Gwaith ar y Tir - Cynhadledd Arloesi Gwledig, Coleg Glynllifon

Dydd Mercher, 22 Ebrill 2026
llun i'w gynnwys

Cynhadledd i fyfyrwyr Lefel A a BTEC Lefel 2 sy’n astudio Amaeth a hefyd Busnes, Daearyddiaeth neu bynciau Amgylcheddol a’r Fagloriaeth.

Mae’r Gynhadledd yn gyfle i glywed am y gwahanol swyddi a diwydiannau sydd ar gael yn y maes, nid dim ond ffermio traddodiadol. Bydd yn gyfle i’r myfyrwyr glywed am ffyrdd i dyfu busnes neu fentro i faes gwaith newydd. Byddwn hefyd yn clywed am sut mae gwahanol fentrau lleol wedi llwyddo.

Amserlen

10.00 Cofrestru a phaned

10.30 Cyflwyniadau gan:

* Paula Roberts - Ynni Adnewyddol

* Wyn Morris – Bwyd ac Amaeth

* Emyr Parker – Coedwigaeth Gynaliadwy

12.00 CINIO – pecyn bwyd am ddim i’r mynychwyr a chyfle i siarad gyda stondinau gwahanol gwmnïau gwledig

13.00 Gweithdai:

* Ben Gregory a Gwenllian Spink - Yr Orsaf, Penygroes – hwb a gweithgareddau cymunedol, caffi, llety, ayyb

* Rob Bowen - Brandio cynnyrch Cymreig

* Rebecca Jones ac Eifiona Thomas Lane

15.00 – Gorffen

Trafnidiaeth

Cynigir cyfraniad o £75 at gost tanwydd teithio i’r Gynhadledd i’r ysgolion a cholegau sydd am fynychu.

Cofrestru:

Llenwch y ffurflen ar-lein yma. Mae’r digwyddiad yn uniaith Gymraeg.

Gwybodaeth bellach:

Siôn Jobbins: s.jobbins@colegcymraeg.ac.uk 07815 85 78 21