Dyddiad: 3 Rhagfyr
Amser: 14:00 - 15:30
Lleoliad: Teams
Sesiwn yn cyflwyno pecyn technegau newid ymddygiad newydd y Coleg Cymraeg.
Comisiynwyd asiantaeth newid ymddygiad Claremont i greu'r Pecyn Technegau Newid Ymddygiad.
Bwriad y pecyn yw rhoi arweiniad a chyngor i ymarferwyr sy'n gweithio gyda dysgwyr sydd wrthi'n gwneud penderfyniadau am eu haddysg.
Mae'r daith i'r brifysgol yn gyfnod cyffrous i fyfyrwyr ond gall hefyd fod yn gyfnod ansicr, yn llawn cwestiynau ynghylch gyrwyr a rhwystrau canfyddedig sy'n ymwneud ag astudio'n Gymraeg.
Gyda'n gilydd, gallwn helpu darpar fyfyrwyr a myfyrwyr i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch eu camau nesaf wrth astudio'n Gymraeg yn y brifysgol.
Bydd y sesiwn hwn yn cyflwyno trosolwg i’r Pecyn gan gynnwys:
- Sut i ddeall ein cynulleidfa?
- Y rhwystrau a'r ysgogiad sy'n dylanwadu ar benderfyniadau myfyrwyr ynghylch astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Y strategaethau negeseuon sy'n gallu helpu i leihau ansicrwydd, meithrin hyder a dangos manteision astudio yn Gymraeg
Bydd cyfle i weithio gyda'n gilydd i rannu syniadau a chreu ymyraethau ystyrlon sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Mae'r gweithdy hwn wedi ei anelu at ddarlithwyr mewn prifysgolion a cholegau addysg bellach, gan gynnwys hwyluswyr y Gymraeg, swyddogion marchnata a chynghorwyr gyrfa.
Edrychwn ymlaen at eich gweld!