Skip to main content Skip to footer
Man Lun Gŵyl yr Haf

Gŵyl yr Haf Cymraeg Ail Iaith 2025 - Caerdydd

Dydd Mawrth, 1 Gorffennaf 2025
Man Lun Gŵyl yr Haf

Digwyddiad: Gŵyl yr Haf, Coleg Cymraeg Cenedlaethol + Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd

Dyddiad: Dydd Mawrth 1 Gorffennaf 2025

Amser: Digwyddiad diwrnod 10yb-3yp (cyrraedd ar ôl 9.30 i gofrestru)

Lleoliad: Adeilad Bute, Prifysgol Caerdydd, Rhodfa'r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3NB

Cynulleidfa: Dysgwyr Cymraeg Ail Iaith Bl.10, Bl.11 + Bl.12 


Nod y diwrnod yw rhoi cyfle i ddysgwyr fydd yn astudio Cymraeg UG/Safon Uwch Ail Iaith ym mis Medi 2025 baratoi ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, brofi elfennau o fyw a gweithio drwy gyfrwng yr iaith, a chael blas ar astudio’r Gymraeg yn y brifysgol. Cyfle i ennyn diddordeb Bl.10 yn y pwnc a phlannu hedyn dewis Lefel A Cymraeg flwyddyn nesaf.

Yn ddathliad o'r Gymraeg, bydd y diwrnod yn cynnwys amrywiaeth o sesiynau astudio, gweithdai diddorol, sgyrsiau, ffair stondinau, cerddoriaeth a chyfle i gymdeithasu. Cyfraniadau gan Nia Morais, Bardd Plant Cymru; Mewn Cymeriad; Aleighcia Scott; Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd; Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe; a mwy. Yr union raglen i’w chyhoeddi maes o law.

Bydd yr holl weithgareddau am ddim, a gall y Coleg Cymraeg Cenedlaethol hefyd gyfrannu at gostau teithio ysgolion ac unigolion i gyrraedd Caerdydd. Bydd angen i bawb ddod â'u cinio eu hunain.

Mwy o wybodaeth yn y llythyr isod neu drwy gysylltu â ff.owen@colegcymraeg.ac.uk

Mae'r ffurflen gofrestru ar gael isod. Bydd angen cofrestru erbyn 6 Mehefin fan bellaf. Mae llefydd yn gyfyngedig a byddwn ni'n gweithredu ar ail y cyntaf i'r felin.