Skip to main content Skip to footer
hyfforddiant

Hyfforddiant iechyd a lles i fyfyrwyr ôl-radd

Dydd Iau, 26 Mehefin 2025
hyfforddiant

Dyddiad: 26 Mehefin, 12:30pm

Lleoliad: Medrus, Prifysgol Aberystwyth

I bwy?: Myfyrwyr ôl-radd

Beth? Prynhawn o weithdai yn canolbwyntio ar iechyd a lles i fyfyrwyr ôl-radd dan ofal Dr Marc Williams a Dr Mirain Rhys.

 

Sesiwn 1:

‘Nid ti yn unig: straen, cymhelliant ac iechyd meddwl yn ystod astudiaethau ôl-raddedig’ - Dr Marc Williams

Mae Dr Marc Williams yn seicolegydd clinigol ac yn diwtor / uwch ddarlithydd ar raglen Seicoleg Glinigol Prifysgol Caerdydd. Ar ôl cwblhau ei ddoethuriaeth, enillodd Marc PhD dan nawdd y Coleg Cymraeg ar destun ymddygiadau o blaid yr amgylchedd. Mae’n cofio’n glir yr heriau sy’n gysylltiedig ag astudio ar lefel ôl-raddedig. Yn ei waith addysgu a goruchwylio, mae’n awyddus i normaleiddio ac annog i bobl fod yn agored am y profiadau hyn. 

Yn ystod y gweithdy hwn trafodir materion megis burnout, perffeithiaeth, procrastination, syndrom y twyllwr (impostor syndrome), unigrwydd, a phroblemau iechyd meddwl eraill sy'n medru effeithio ar fyfyrwyr ôl-radd. Ystyrir pa mor gyffredin yw’r profiadau hyn ymhlith myfyrwyr ôl-raddedig, a thrafodir strategaeth i ymdopi, a sut, ble a phryd i ofyn am gymorth proffesiynol. 

 

Sesiwn 2:

‘Byw yn Iach – sicrhau lles a llesiant i fyfyrwyr doethurol’ - Dr Mirain Rhys

Mae Dr Mirain Rhys yn uwch ddarlithydd Seicoleg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae Mirain hefyd yn gwnselydd dyneiddiol-ddirfodol (humanistic-existential) ac wedi gweithio gyda myfyrwyr prifysgol i ddarparu sesiynau therapi drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ers dwy flynedd bellach. 

Yn ystod y gweithdy hwn ystyrir theorïau damcaniaethol am syniadaeth dyneiddiol-ddirfodol a sut mae’n berthnasol i fyfyrwyr sy’n astudio doethuriaeth. Trafodir hefyd rôl unigol mynychwyr yn eu siwrne llesiant eu hunain, gan feddwl am ddatblygu tŵlcit iechyd a lles ar gyfer ymdopi gyda’r profiad o fod yn fyfyriwr doethurol. Erbyn diwedd y gweithdy bydd myfyrwyr yn gwybod sut i blethu cefnogaeth allanol sydd ar gael iddynt gyda chefnogaeth fewnol allant roi ar waith er mwyn cadw’n saff ac iach wrth astudio doethuriaeth. 

 

Mae'r hyfforddiant hwn yn rhan o ddeuddydd Cynhadledd Ymchwil y Coleg Cymraeg

Gweler y ddogfen isod i ddarllen rhagor o wybodaeth ac i weld amserlen y diwrnod.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â m.james@colegcymraeg.ac.uk

Dyddiad cau i gofrestru: 17 Mehefin 2025