Mewn partneriaeth rhwng Llenyddiaeth Cymru, Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, bydd cyfle i 15 o ddisgyblion sy'n astudio Lefel A Cymraeg (UG/Safon Uwch) i dreulio penwythnos preswyl creadigol yng Nghanolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru, Tŷ Newydd, Llanystumdwy, 21-23 Tachwedd, 2025. Mae’r penwythnos – i gynnwys llety, bwyd (brecwast, cinio, swper, byrbrydau), diod a gweithdai – yn cael ei gynnig am ddim.
Drwy’r penwythnos bydd gweithdai creadigol byrlymus dan arweiniad beirdd, llenorion a dramodwyr sydd yn dal sawl gwobr a llwyddiant cenedlaethol a rhyngwladol. Ceir gweithdai barddoniaeth, rhyddiaith, sgriptio i ddrama a theledu, yn ogystal â darlleniadau gwadd gan awduron mwyaf cyffrous Cymru. Bydd copi o'r amserlen ddrafft isod maes o law.
Dyma gyfle euraidd i ysbrydoli, i danio ac i ennyn diddordeb a phleser y disgyblion mewn ysgrifennu creadigol ac i amlygu'r hyn mae’r Gymraeg yn ei gynnig fel maes profiad a llwybr gyrfa. Yn ogystal, bydd yn rhoi’r cyfle i ddisgyblion o bob cwr o Gymru i ddod at ei gilydd i gymdeithasu a chanfod eneidiau hoff cytûn.
Y cwbl sydd angen i’r disgyblion ei wneud yw llenwi ffurflen wybodaeth, ffurflen monitro cydraddoldeb a chyflwyno darn o waith creadigol dim mwy na 2,000 o eiriau erbyn 13:00pm ar 13 Hydref. Gall y gwaith hwn fod yn waith cwrs sydd eisoes wedi ei ddefnyddio yn y dosbarth. Mae'r ddolen i'r ffurflen gais isod.
Bydd cynrychiolaeth o Adran y Gymraeg Bangor, Llenyddiaeth Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dewis y 15 ac yn rhoi gwybod am y dyfarniad i’r disgyblion erbyn diwedd mis Hydref.
