Skip to main content Skip to footer
tegau

Termau: Yr Hyll, yr Hir a’r Hynod

Dydd Mawrth, 15 Hydref 2024
tegau

Dyddiad: 15 Hydref 2024

Amser: 14:00

Lleoliad: Teams

Sesiwn ymarferol i staff academaidd ac ymchwilwyr i'ch helpu i ddefnyddio termau yn eich gwaith bob dydd. Byddwn yn trafod:

  • Beth yw termau?
  • Pa eiriaduron i’w defnyddio?
  • Sut i wybod a yw term yn addas ai peidio?
  • Sut i fynd ati i gael termau newydd?

Byddwn yn edrych ar dermau hyll, termau hir a thermau hynod. Cawn gip hefyd ar sut i greu termau, pryd i fenthyg o ieithoedd eraill, beth yw’r egwyddorion rhyngwladol a beth yw’r tueddiadau yn y Gymraeg. Bydd cyfle ar y diwedd i drafod.

Bydd y sesiwn hon yn cyfuno a chrynhoi’r wybodaeth a geir yn y pedwar fideo o’r pecyn Termau technegol ar gyfer dysgu trwy’r Gymraeg 

 

Bywgraffiad:

Mae Dr Tegau Andrews yn derminolegydd i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ers 2009. Mae’n rhan o dîm datblygu Geiriadur Termau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, un o’r prif eiriaduron termau Cymraeg sy’n cynnwys diffiniadau, diagramau a lluniau esboniadol. Mae Tegau yn cynrychioli Cymru ar bwyllgorau termau’r BSI ac ISO, sef y sefydliadau safonau Prydeinig a rhyngwladol. Mae’n bennaeth prosiect y safon ryngwladol ISO 20539: 2023.