Skip to main content Skip to footer
mân lun galwad am bapurau

Testunau'r Enfys - Galwad am gyfranwyr

Dydd Gwener, 19 Gorffennaf 2024 - Dydd Mawrth, 10 Medi 2024
mân lun galwad am bapurau

Rydym yn chwilio am gyfranwyr academaidd i archwilio testunau LHDTC+, ac am bobl greadigol i lunio testunau newydd yn y maes. Cynhelir dau ddigwyddiad yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

20 Medi 2024 - Gweithdy Ymchwil ac Ymarfer

5 Gorffennaf 2025 - Cynhadledd

Ceir mwy o fanylion am y ddau digwyddiad isod.

 

Y Prosiect

Prosiect cydweithredol yw ‘Testunau’r Enfys’ sy’n archwilio cynrychiolaeth a hunaniaethau LHDTC+ a chroestoriadwyedd yn y canon llenyddol Cymraeg ei iaith, gan roi sylw i ystod o destunau llenyddol hanesyddol a chyfoes.

Bwriad prosiect ‘Testunau’r Enfys’ yw ysgogi ymchwil newydd a chefnogi a mentora cyfranwyr y Gweithdy i ddatblygu eu cyfraniadau academaidd neu greadigol gogyfer y Gynhadledd. Y tu hwnt i’r ddau weithgaredd, bydd y tîm prosiect yn gweithio gyda chyfranwyr i ddatblygu cynnyrch y Gweithdy a’r Gynhadledd yn adnodd academaidd a chreadigol cyfrwng Cymraeg.

Mae tîm prosiect ‘Testunau’r Enfys’ yn dymuno datblygu’r maes drwy feithrin ymchwilwyr newydd a phrofiadol. Bydd cyfle i ymchwilwyr newydd gael eu mentora wrth baratoi papur neu gyfraniad i’r Gynhadledd. Ceir uchafswm o 25 lle yn y Gweithdy a gofynnwn i chi ymrwymo i’r Gweithdy a’r Gynhadledd.

E-bostiwch cymraeg@aber.ac.uk i fynegi diddordeb gan nodi eich diddordebau academaidd/creadigol (tua 300 gair).

Poster testunau'r enfys

Manylion am y Gweithdy a'r Gynhadledd

Cynhelir Gweithdy a Chynhadledd ‘Testunau’r Enfys’ a disgwylir i gyfranwyr ymrwymo i’r ddau ddigwyddiad:

20 Medi 2024 - Gweithdy Ymchwil ac Ymarfer: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Amcan y Gweithdy yw creu gofod cefnogol i ymchwilwyr ac ymarferwyr creadigol ddod ynghyd i rwydweithio a thrafod y cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu’r maes. Yn y Gweithdy byddwn yn archwilio archif Llyfrgell Genedlaethol Cymru er mwyn ysgogi ymchwil newydd ym maes llenyddiaeth a theori LHDTC+ ynghyd â siapio arlwy’r Gynhadledd. Byddwn hefyd yn adnabod cyfleoedd pellach i gydweithio ac ymgeisio am arian i ddatblygu’r prosiect hwn a phrosiectau cysylltiedig.

5 Gorffennaf 2025 - Cynhadledd: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Bydd cyfranwyr i’r Gweithdy yn cyflwyno papurau yn y Gynhadledd, neu yn datblygu cyfweliadau, paneli trafod, a chyflwyniadau (e.e. gwaith creadigol neu berfformiad sy’n mynd y tu hwnt i ymarfer academaidd traddodiadol). Bydd y Gynhadledd ar agor i gynulleidfa ehangach.

Tîm Testunau’r Enfys

Mae'r prosiect hwn yn adeiladu ar arbenigedd dysgu ac ymchwil tîm profiadol:

  • Cathryn A. Charnell-White (Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth): ymchwil ar rywedd a llenyddiaeth menywod hanesyddol a chyfoes.
  • Gareth Llŷr Evans (Adran Theatr Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth): ymchwil ar theatr a pherfformio cyfoes gan ddefnyddio damcaniaethau a fframweithiau cwiar.
  • Gareth Evans-Jones (Ysgol Hanes, Y Gyfraith, a Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Bangor): ymchwil ar rywedd, caethwasanaeth, Cymru ac UDA; awdur a golygydd y casgliad cyntaf o lenyddiaeth LHDTC+ yn y Gymraeg, Curiadau (2023).
  • Rhiannon Marks (Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd): ymchwil ar rywedd a rhywioldeb mewn llenyddiaeth gyfoes a phrosiect ‘Darllen Hunaniaethau’ a noddir gan yr AHRC.