Mae’r Coleg yn gwahodd ceisiadau gan sefydliadau addysg uwch ar gyfer ei Gronfa Grantiau Cydweithredol.
Prif bwrpas y Gronfa Gydweithredol yw cefnogi darpariaeth (modiwlau) a gweithgareddau (gan gynnwys cynadleddau) cyfrwng Cymraeg fydd yn cyfoethogi profiad myfyrwyr yn y sector addysg uwch. Gall hyn gynnwys gweithgareddau pontio neu ddilyniant at addysg uwch neu weithgareddau sy’n cyfrannu at brofiad myfyrwyr cyfredol.
Mae'r ffurflenni cais ar gael ar ein gwefan.
Mae angen cyflwyno ceisiadau i prosiectau@colegcymraeg.ac.uk erbyn canol dydd, 4 Ebrill 2025.