Bydd y Coleg Cymraeg yn lansio Ysgoloriaeth Anne Brooke am:
13:00, dydd Llun, 14 Gorffennaf 2025
Canolfan JOMEC, Adeilad Dau, Sgwâr Canolog, Caerdydd, CF10 1FS.
Mae’r ysgoloriaeth newydd er cof am y diweddar Anne Brooke, awdures o’r Unol Daleithiau a ddysgodd Gymraeg ar ôl ymgartrefu yn y Rhondda. Aeth ati i gyhoeddi nifer o lyfrau Cymraeg i blant er mwyn cefnogi rhieni di-Gymraeg i ddarllen gyda’u plant.
Mae’r ysgoloriaeth ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio’r Gymraeg fel pwnc gradd yn y brifysgol a bydd y Coleg yn gwahodd ceisiadau yn nhymor yr Hydref.
Bydd perfformiad gan gôr merched Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, a bydd lluniaeth ar gael.
Gofynnwn i chi gofrestru eich presenoldeb drwy lenwi'r ffurflen islaw erbyn 8 Gorffennaf os gwelwch yn dda.