Skip to main content Skip to footer
7 Hydref 2024

Catrin Palfrey o Degfryn yn ennill Ysgoloriaeth ‘Defi Fet’ y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

ADD ALT HERE

Catrin Palfrey, sy’n 19 oed ac yn dod o Degfryn ger Crymych, sydd wedi ennill ysgoloriaeth gwerth £2,500 er cof am y milfeddyg o Landysul, y diweddar DGE Davies neu Defi Fet, eleni.

Mae Ysgoloriaeth ‘Defi Fet’ yn cael ei rhoi i gefnogi myfyrwyr sy’n astudio milfeddygaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Gwyddor Filfeddygol Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth, yr unig fan mae modd astudio Milfeddygaeth yng Nghymru.

Cafodd yr ysgoloriaeth ei sefydlu ar y cyd rhwng y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Aberystwyth er cof am filfeddyg adnabyddus ac uchel iawn ei barch o ardal Llandysul, y diweddar DGE Davies, oedd yn cael ei adnabod yn lleol fel Defi Fet.

Aeth Catrin Palfrey i Ysgol Bro Preseli yng Nghrymych, a gwnaeth ei Lefel A mewn Mathemateg, Cemeg a Bioleg.  Cymrodd flwyddyn o hoe ar ôl gadael yr ysgol yn haf 2023, gan weithio ym mwyty Printworks yn Aberteifi am flwyddyn.

Dw i wedi bod ar brofiad gwaith gydag amryw o filfeddygon yn yr ardal, ac wedi gweld pa mor bwysig yw gallu siarad Cymraeg.

Catrin Palfrey

Meddai Catrin, “Mae gen i ddiddordeb mewn gwyddoniaeth ers i fy nhad egluro beth oedd atom i mi pan oeddwn i’n ferch fach!  Dw i hefyd yn caru anifeiliaid felly mi oedd fy nghariad at wyddoniaeth ac anifeiliaid yn fy arwain at filfeddygaeth.

“Dros y blynyddoedd, dw i wedi bod ar brofiad gwaith gydag amryw o filfeddygon yn yr ardal, ac wedi gweld pa mor bwysig yw gallu siarad Cymraeg.

“Roedd gallu siarad Cymraeg yn hanfodol er mwyn deall ein gilydd, ond yn bwysicach, deall y driniaeth oedd yn cael ei chynnig. 

“Bues i ar brofiad gwaith mewn fferm leol dros y Pasg eleni hefyd, adeg ŵyna, ac mi welais eto mor bwysig oedd gallu siarad Cymraeg ar fferm brysur.

“Mae’n fraint anhygoel i fod wedi cael cynnig yr ysgoloriaeth yma, a dw i’n edrych ymlaen i ddysgu mwy am y maes a chael astudio elfennau o’m cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Fy mreuddwyd yw gweithio fel milfeddyg amaethyddol neu ar ochr ymchwil o filfeddygaeth – neu efallai ychydig bach o’r ddau!”

Meddai’r Athro Darrell Abernethy, Pennaeth Ysgol Gwyddor Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth:

“Llongyfarchiadau mawr i Catrin sy’n llawn haeddu hyn. Rhan greiddiol o’n gweledigaeth ni ar gyfer yr Ysgol yw gwasanaethu anghenion Cymru. Mae’r fraint o addysgu myfyrwyr lleol a Chymraeg eu hiaith fel Catrin yn tanlinellu pwysigrwydd yr Ysgol i ni’n lleol yn ogystal â Chymru fel cenedl. Mawr yw ein diolch i Elaine a’r teulu am eu cefnogaeth hael er mwyn i ni allu cynnig yr ysgoloriaeth arbennig hon.

“Buodd sefydlu’r Ysgol yn arwydd o ba mor ganolog y mae amaeth a’r diwydiannau cysylltiedig i economi Cymru. Fel Prifysgol, mae cyfrifoldeb arnom ni i ddarparu’r bobl a’r sgiliau a fydd yn cyfrannu at sicrhau eu bod yn llwyddo am flynyddoedd i ddod. Mae’r Ysgol yn ychwanegu darn newydd hollbwysig i’r jig-so, un sy’n adeiladu gwytnwch yn yr economi wledig drwy addysg ac ymchwil mewn cyfnod o newid a heriau mawr posibl.

“Mae ein partneriaeth gyda’r Coleg Cymraeg yn gwbl allweddol er mwyn i ni wireddu ein gweledigaeth. Rydyn ni wedi bod yn ffodus hefyd bod yr Ysgol, y gyntaf a’r unig un yng Nghymru, yn parhau i ddatblygu ac i ehangu diolch i gefnogaeth ystod eang o bartneriaid. Mae’r ffug-glinig newydd sydd newydd agor fel rhan o’n Canolfan ar gampws Penglais yn enghraifft o hynny ar waith.” 

 

Dywedodd Dr Dylan Phillips, Cyfarwyddwr Addysg Uwch ac Ysgrifennydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:

“Llongyfarchiadau mawr i Catrin ar ennill Ysgoloriaeth Defi Fet eleni a phob dymuniad da iddi ar ei thaith i fod yn filfeddyg.

“Mae Catrin wedi dangos yn glir ei bod yn deall pwysigrwydd siarad iaith gyntaf y cwsmer, a’r gwahaniaeth mae hynny yn ei wneud yn ymarferol i filfeddygon wrth eu gwaith yng nghefn gwlad Cymru.”

Derbyniodd y Coleg rodd hael gan ferch Defi Fet, Elaine Davies, a’i theulu i sefydlu cronfa er mwyn cefnogi cenhedlaeth newydd o filfeddygon proffesiynol cyfrwng Cymraeg yng Nghymru.

Ychwanegodd Dr Dylan Phillips, “Hoffwn ddiolch yn fawr i Elaine a’i theulu am y rhodd ariannol hynod o hael er cof am ei thad, a fydd yn cefnogi Catrin dros y bum mlynedd.

“Mae’r rhodd yn caniatáu i ni gefnogi myfyriwr bob blwyddyn am y 15 mlynedd nesaf i astudio cyfran o’u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg.”

Am fwy o wybodaeth neu i ymgeisio am Ysgoloriaeth Milfeddygaeth Defi Fet 2025 ewch i wefan y Coleg