Mae Cyngor Addysg Graddedigion y DU a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn falch o gyhoeddi fersiwn Cymraeg o’r Fframwaith Ymarfer Goruchwyliol Da. Mae'r Fframwaith Ymarfer Goruchwyliol Da yn cydnabod, ar lefel genedlaethol, y set eang, cymhleth a heriol o swyddogaethau sy'n gysylltiedig â goruchwyliaeth ymchwil fodern.
Mae’r fframwaith wedi'i gynllunio i bennu disgwyliadau ar gyfer pob goruchwyliwr ac i gefnogi rhaglenni datblygu goruchwylwyr. Mae'r fframwaith wedi'i ysgrifennu gan yr Athro Stan Taylor o Brifysgol Durham, ac mae'n seiliedig ar ystod eang o ymchwil academaidd i oruchwyliaeth.
Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Dr Owen Gower, Cyfarwyddwr Cyngor Addysg Graddedigion y DU: "Rwy'n falch iawn o gyhoeddi fersiwn Cymraeg o’r Fframwaith Ymarfer Goruchwyliol Damewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’n hanfodol ein bod ni, fel Cyngor Addysg Graddedigion y DU, yn cefnogi cymuned ôl-raddedig gyfan y DU mor effeithiol ag y gallwn. Dyma gyhoeddiad pwysig arall wrth i ni barhau i helpu goruchwylwyr i lywio cymhlethdodau goruchwyliaeth ymchwil fodern."
Dywedodd Dr Dylan Phillips, Uwch Reolwr Academaidd, Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Mae’r Coleg yn gwerthfawrogi’r cyfle arbennig hwn i gydweithio â UKCGE i ddatblygu llwybr cyfrwng Cymraeg ochr yn ochr â’r ddarpariaeth cyfrwng Saesneg ar gyfer cefnogi goruchwylwyr ymchwil ar ddau lefel: i gynnig arweiniad a hyfforddiant iddynt ar yr ystod o sgiliau sy’n angenrheidiol ar gyfer cefnogi’r to nesaf o academyddion; a’r gydnabyddiaeth llawn haeddiannol y gallasant weithio tuag ato trwy’r ‘Fframwaith Ymarfer Goruchwyliol Da’.”
Y Tîm Datblygu Staff Academaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth yw'r cyntaf i ddefnyddio fersiwn Gymraeg o'r Fframwaith Ymarfer Goruchwyliol Da.
Wrth siarad am eu defnydd o’r fframwaith i wella cynnig y brifysgol o safbwynt datblygiad proffesiynol staff, dywedodd yr Athro Colin McInnes, Dirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi), Prifysgol Aberystwyth: “Gall goruchwylio myfyrwyr ymchwil fod yn un o’r pethau mwyaf boddhaus a wnawn fel cymuned academaidd, ond yn un o’r pethau anoddaf hefyd. Mae’r heriau hyn yn effeithio ar bawb ohonom ni o bryd i’w gilydd, ac yn dal i ymffurfio wrth i ymarfer, dulliau a gwybodeg ymchwil ddatblygu. Bydd y Fframwaith hwn yn rhoi’r adnoddau a’r hyder i’n cymuned ymchwil ni yn Aberystwyth gael parhau gyda’n harferion goruchwylio ardderchog a chefnogi ein Myfyrwyr ymchwil.”
Gellir lawr lwytho fersiwn Cymraeg o’r Fframwaith Ymarfer Goruchwyliol Da am ddim ar wefan Rhaglen Cydnabod Goruchwyliaeth Ymchwil yr UKCGE yn ogystal â Phorth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol:
https://supervision.ukcge.ac.uk/downloads/lawrlwythor-fframwaith-ymarfer-goruchwylio-da/