Skip to main content Skip to footer
7 Awst 2024

Cyhoeddi partneriaeth rhwng y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Medr

ADD ALT HERE

Cydweithio er mwyn cynyddu darpariaeth Gymraeg a dwyieithog yn y sector drydyddol ac annog y galw amdano

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Medr (y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd) wedi cyhoeddi memorandwm o ddealltwriaeth heddiw (dydd Mercher 7 Awst) sy’n amlinellu sut bydd y Coleg yn cynghori Medr ar ei ddyletswyddau statudol i gynyddu darpariaeth Gymraeg a dwyieithog yn y sector drydyddol ac annog y galw amdano. Yn unol â’r memorandwm, bydd Medr yn ystyried yn llawn y cyngor a gyflwynir iddo gan y Coleg.

Daeth y cyhoeddiad mewn derbyniad ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Rhondda Cynon Taf.

Meddai Prif Weithredwr y Coleg, Dr Ioan Matthews:

“Mae gwireddu targedau Cymraeg 2050 i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu’r defnydd dyddiol o’r iaith yn cynnig her benodol i’r sector drydyddol. Yn y sector hwn y mae gweithluoedd dwyieithog y dyfodol yn cael eu hyfforddi, o weithwyr gofal i feddygon, o gynorthwywyr dysgu i athrawon, o filfeddygon i barafeddygon.

“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni gyd, ac mae’r Coleg yn edrych ymlaen at gydweithio gyda Medr i gyflawni ein gweledigaeth hirdymor bod darpariaeth Gymraeg a dwyieithog ar gael i bawb sy’n astudio a hyfforddi yng Nghymru, beth bynnag eu sgiliau Cymraeg.” 

Meddai Simon Pirotte, Prif Weithredwr Medr:

“Hwn yw’n cytundeb cyntaf fel Medr, ac mae hyn yn tanlinellu pwysigrwydd ein perthynas gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae ein sefydliadau yn rhannu perthynas statudol, ond fel mae’r memorandwm o ddealltwriaeth hwn yn dangos, ry’n ni hefyd yn rhannu uchelgais ar y cyd i wella cyfleoedd i ddysgwyr trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Ry’n ni’n edrych ymlaen at dderbyn cyngor ffurfiol cyntaf y Coleg ac i weithio gyda nhw i weithredu ar ein huchelgais.”

Sefydlwyd Medr, sy’n weithredol ers 1 Awst 2024, fel corff hyd-braich newydd i fod yn gyfrifol am gyllido a goruchwylio addysg ac ymchwil ôl-16 yng Nghymru. Mae gan Medr ddyletswyddau strategol statudol i:

  • annog y galw am addysg drydyddol Gymraeg a chyfranogiad ynddi;
  • cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod digon o addysg drydyddol Gymraeg i ateb y galw; ac,
  • annog darparu addysg drydyddol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dynodi’r Coleg yn ffurfiol i gynghori Medr ar ei ddyletswyddau strategol statudol yn ymwneud â’r Gymraeg.

Bydd y Coleg yn cyflwyno’i gyngor ffurfiol cyntaf i Medr yn gynnar yn nhymor yr hydref er mwyn llywio Cynllun Strategol cyntaf Medr a gyflwynir  i Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr.