Skip to main content Skip to footer
7 Awst 2025

“Cyn 2005, roedd gwneud doethuriaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn aml yn dibynnu ar ewyllys da darlithwyr.”

ADD ALT HERE

Ar faes yr Eisteddfod eleni, bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnal digwyddiad i ddathlu 20 mlynedd ers dechrau cynnig ysgoloriaethau i fyfyrwyr wneud doethuriaeth (PhD) trwy gyfrwng y Gymraeg. 

Mae tua 10 myfyriwr newydd yn cael nawdd i wneud eu doethuriaeth yn Gymraeg bob blwyddyn a tua 180 wedi bod yn rhan o’r cynllun ers ei sefydlu yn 2005.   Mae’r meysydd yn amrywio o ddyfodol TB mewn ffermio a llais y ferch yn y cwricwlwm llenyddol, i drin afiechydon prion a datblygu deallusrwydd artiffisial mewn addysg.

Mae nifer o’r myfyrwyr wedi mynd ymlaen i ddarlithio, parhau i wneud ymchwil arloesol a bathu termau newydd mewn meysydd arbenigol iawn, oll trwy gyfrwng y Gymraeg.

Un o’r rhai cyntaf i gael ysgoloriaeth 20 mlynedd yn ôl oedd Dr Hywel Griffiths, sydd bellach yn Ddarllenydd yn adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Prifysgol Aberystwyth.

Dywedodd, “Dw i’n cofio’r cyfnod cyn i’r Cynllun Ysgoloriaeth Ymchwil gael ei sefydlu, pan oedd y cyfleon i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn anghyson ar draws Cymru, ac yn aml yn dibynnu ar ewyllys da darlithwyr. Dw i’n cofio bod yn rhan o’r protestiadau yn galw am sefydlu ‘Coleg Ffederal Cymraeg’ a daeth hwnnw ar ffurf y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

“Mae pethau wedi symud ymlaen yn syfrdanol ers hynny a dw i wedi cael cyfleon i wneud ymchwil diddorol ar afonydd a’r amgylchedd trwy gyfrwng y Gymraeg, diolch i’r Coleg.  Dw i hefyd, o ganlyniad, wedi llwyddo i ddatblygu modiwlau i addysgu myfyrwyr am y pynciau hynny trwy gyfrwng y Gymraeg.”

Un a gafodd ysgoloriaeth yn fwy diweddar gan y Coleg Cymraeg ydy Dr Bedwyr ab Ion, wnaeth ddoethuriaeth yn edrych ar ffyrdd o ddatblygu therapïau i drin clefydau prion. Dychwelodd Bedwyr i Gymru i wneud ei ddoethuriaeth gyda Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau Prifysgol Caerdydd ar ôl astudio gradd meistr integredig mewn Cemeg ym Mhrifysgol Rhydychen. 

Dywedodd, “Roedd ambell un yn cwestiynu fy newis i wneud doethuriaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Doedden nhw methu gweld y pwynt gan mai ‘Saesneg ydy iaith ryngwladol gwyddoniaeth’. A byddwn innau wedyn yn ateb trwy ddweud y bydd na wastad lle i’r Saesneg fel iaith gyffredin i rannu syniadau a safbwyntiau ond ei bod yn bwysig fod pobl yn cael cyfle i astudio yn eu mamiaith yn eu gwlad eu hunain.

“Yn ogystal, dychmygwch y potensial pe byddai rhyddid i fynegi a thrafod syniadau mewn ieithoedd ag eithrio’r Saesneg – gallai’r darganfyddiadau a’r creadigrwydd fod yn syfrdanol o gael mynegi syniadau, cysyniadau a theimladau yn eich mamiaith.”

Yn ymuno gyda Bedwyr a Hywel i drafod ei phrofiad o wneud doethuriaeth trwy gyfrwng y Gymraeg bydd Catrin Roberts, sydd hefyd yn weithiwr clinigol gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Pwnc ymchwil Catrin yw ‘Mamiaith yn yr ystafell eni: profiad merched a bydwragedd’ ac mae hi’n gwneud ei hymchwil yn hwyrach mewn bywyd, ar ôl gweithio a magu profiad ymarferol yn y maes. 

Dywedodd, “Dw i wedi bod yn gweithio fel bydwraig ers 15 mlynedd, ac wedi gweld droeon pa mor bwysig ydy hi i famau cael siarad Cymraeg yn ystod genedigaeth.

“Yn ystod fy ngyrfa, dw i wedi gorfod cyfieithu i weithwyr proffesiynol eraill, di-Gymraeg, fel bod y fam yn cael siarad yn ei mamiaith ac wedi cefnogi mamau i allu gwneud penderfyniadau gwybodus tra’n esgor a geni trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Dw i’n gobeithio y bydd y dystiolaeth yn fy ymchwil yn amlygu pwysigrwydd mamiaith mewn gofal mamolaeth, yn enwedig wrth esgor a geni. Credaf fod angen ystyried yr iaith fel opsiwn cyfartal i agweddau eraill yn ystod geni, megis dulliau lleddfu poen, dewis lleoliad y geni, a dewisiadau bwydo.”

Bydd Hywel, Bedwyr a Catrin yn cymryd rhan mewn trafodaeth ym Mhabell y Cymdeithasau ar Faes yr Eisteddfod, dydd Iau 7 Awst am 11:30yb.  Dr Dylan Phillips, Cyfarwyddwr Addysg Uwch ac Ysgrifennydd y Coleg Cymraeg fydd yn cadeirio’r sgwrs.

Dywedodd Dr Phillips, “Nod sefydlu’r cynllun oedd datblygu ymchwilwyr o’r safon uchaf sy’n gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Mae’n braf gweld bod y cynllun wedi bod mor llwyddiannus, a bod gennym ni bellach griw brwdfrydig o academyddion cyfrwng Cymraeg newydd yn gweithio mewn prifysgolion ar draws Cymru, yn gwneud gwaith arloesol, ac yn cynyddu a datblygu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr.

“Bydd y drafodaeth hon yn yr Eisteddfod yn gyfle i ddathlu’r llwyddiannau, ac i drafod yr heriau a’r cyfleoedd at y dyfodol.”