Enillydd Gwobr Gwerddon eleni yw Dr Hannah Sams, darlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, gyda’i herthygl ‘Dod i oed: llenyddiaeth Oedolion Newydd yn Gymraeg’
Dyfernir Gwobr Gwerddon ar y cyd rhwng y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae’n cael ei rhoi bob yn ail flwyddyn i awdur yr erthygl orau a gyhoeddwyd yn Gwerddon yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
Un o bentref Penrhiwgoch yn Sir Gaerfyrddin yw Hannah yn wreiddiol. Astudiodd y Gymraeg a Sbaeneg ym Mhrifysgol Abertawe cyn aros yn yr adran i ddilyn MA drwy ymchwil. Aeth ymlaen i gwblhau PhD a oedd yn cynnig cyfle i iddi ystyried maes Theatr yr Absẃrd ymhellach gan ofyn - a yw hi’n amser ffarwelio â’r math hwn o theatr yng Nghymru? Ers cwblhau ei doethuriaeth mae Hannah wedi bod yn datblygu elfennau o’r gwaith hwnnw, ac mae hi bellach yn gweithio fel darlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae ei herthygl yn Gwerddon yn deillio o waith ymchwil a wnaed fel rhan o brosiect ymchwil Ewropeaidd dan arweiniad Dr Ríona Nic Congáil, Coleg Prifysgol Dulyn.
Wrth esbonio’r erthygl, dywedodd Hannah:
“Mae’r erthygl hon yn rhoi sylw i gategori llenyddol newydd yn y Gymraeg sef llenyddiaeth Oedolion Newydd. Bathwyd y term New Adult fiction gan Wasg St Martin, Efrog Newydd. Nod y wasg oedd llenwi bwlch yn y farchnad lyfrau trwy ddatblygu categori llenyddol i ddiwallu anghenion darllen Oedolion Newydd rhwng tua 18 a 25 mlwydd oed a oedd yn troedio’r ffin rhwng llencyndod a bod yn oedolion. Ers 2009, mae awduron, darllenwyr a’r diwydiant cyhoeddi wedi ymateb a datblygu gweledigaeth Gwasg St Martin i ddarparu llenyddiaeth i Oedolion Newydd.
“Yr erthygl hon yw’r erthygl gyntaf i drafod dechreuadau’r categori llenyddol hwn mewn rhyddiaith Gymraeg ddiweddar gan ddefnyddio Twll Bach yn y Niwl (2020) gan Llio Elain Maddocks, Sgen i’m Syniad: Snogs, Secs, Sens (2022) gan Gwenllian Ellis a Cwlwm (2022) gan Ffion Enlli fel astudiaethau achos. Mae’r erthygl yn dangos ac yn dadansoddi’r modd y mae rhyddiaith y tri awdur dan sylw yn mynegi, herio ac yn ymateb yn greadigol i’r profiad hwnnw o ddod i oed fel menywod yn ystod y cyfnod rhwng llencyndod a bod yn oedolion o safbwynt eu hunaniaethau cenedlaethol ac ieithyddol a rhywioldeb.”
Cyflwynwyd enwebiadau ar gyfer y wobr gan aelodau o Fwrdd Golygyddol Gwerddon, a gwaith y beirniaid, yr Athro Anwen Jones a Dr Hywel Griffiths, sef golygydd ac is-olygydd Gwerddon, oedd dewis pwy fyddai’n dod i’r brig. Roedd y ddau’n gytûn mai erthygl Dr Hannah Sams oedd yn fuddugol eleni.
Dywedodd yr Athro Anwen Jones, Golygydd Gwerddon:
“Mae’n bleser gwobrwyo erthygl sydd yn cynnig mewnwelediad ysgolheigaidd i faes newydd a chyffroes mewn modd mor afaelgar a hygyrch i gynulleidfa eang. Pan ddaeth erthygl Hannah i law, roedd hi’n amlwg o frwdfrydedd yr arfarnwyr bod gennym waith campus. Ymunaf gyda’r arfarnwyr i’w llongyfarch ar, ‘erthygl fedrus a diddorol sy’n agor maes newydd mewn beirniadaeth lenyddol Gymraeg ac yn llwyddo i edrych ar y maes hwn, sydd eisoes wedi dod i’r amlwg yn Saesneg, drwy berspectif Cymreig. Ceir dadansoddiadau craff a threiddgar o destunau a chyd-destunau tair cyfrol ddiweddar bwysig ac mae’r erthygl yn gyfraniad pwysig at drafod ffuglen gyfoes Gymraeg ac at faes newydd llenyddiaeth i oedolion newydd.’ Mae gwaith Hannah yn enghraifft o’r cyfoeth a gyhoeddir gan Gwerddon ac rydym yn anng awduron i barhau i gyflwyno eu gwaith i’r cyfnodolyn er mwyn i Gwerddon barhau i genhadu yn bell ac agos dros ysgolheictod cyfrwng Cymraeg.”
Noddir y wobr gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Meddai Olivia Harrison, Prif Weithredwr y Gymdeithas:
“Mae Dr Hannah Sams yn llawn haeddu ennill y wobr. Mae ei herthygl yn archwilio tuedd bwysig mewn rhyddiaith Gymraeg ac rydym yn hynod falch bod ei gwaith wedi ei gydnabod o ganlyniad i’n partneriaeth â’r Coleg Cymraeg.”
Bydd Hannah yn derbyn tlws ynghyd â £100 ar stondin y Coleg yn yr Eisteddfod ar ddydd Iau, 7 Awst am 3pm.
Gellir darllen yr erthygl fuddugol drwy'r ddolen isod.