Morgan Siôn Owen o Benrhosgarnedd, Bangor, yw enillydd Ysgoloriaeth Cyngor Gwynedd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol eleni.
Mae Morgan, sydd newydd dderbyn ei Lefel A mewn Drama, Llenyddiaeth Saesneg a Chymraeg Iaith o Ysgol Tryfan, Bangor, wedi ennill yr ysgoloriaeth i astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Sefydlwyd Ysgoloriaeth Cyngor Gwynedd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gan Gyngor Gwynedd. Mae’n cael ei dyfarnu i unigolyn sydd wedi ymgeisio am un o brif ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg, sy’n byw yng Ngwynedd ac sydd am astudio cwrs yn 100% trwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol. Mae’r ysgoloriaeth werth £1,000 y flwyddyn (neu £3,000 dros dair blynedd).
Meddai Morgan: “Rwy’n hynod o ddiolchgar i Gyngor Gwynedd a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am gael ennill yr ysgoloriaeth eleni. Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr at fynd i Brifysgol Caerdydd i astudio’r Gymraeg. Mae gen i ddiddordeb angerddol yn y pwnc a’r holl sgiliau llenyddol a phroffesiynol bydd yn ei gynnig i mi. Bydd gradd yn y Gymraeg yn rhoi’r cyfle i mi wella fy hyder o ran ysgrifennu gan gynnig cyfleoedd i mi ar gyfer y dyfodol ac yn sicr bydd yr arian yn fy nghefnogi i dros y dair blynedd nesaf.”
Meddai Dr Dafydd Trystan, Cofrestrydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Ar ran y Coleg hoffwn longyfarch Morgan am ennill yr ysgoloriaeth eleni a dymunwn bob llwyddiant iddo ym Mhrifysgol Caerdydd. Diolch hefyd i Gyngor Gwynedd am eu cefnogaeth barhaus ar gyfer y cynllun pwysig hwn.”
Meddai Cemlyn Rees Williams, Aelod Cabinet Addysg, Cyngor Gwynedd: “Fel Cyngor, rydym yn llongyfarch Morgan Siôn Owen ar ei lwyddiant wrth sicrhau Ysgoloriaeth Cyngor Gwynedd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae Cyngor Gwynedd yn falch o gefnogi myfyrwyr o Wynedd sydd am astudio a datblygu eu gyrfaoedd drwy gyfrwng y Gymraeg ac am allu cydweithio gyda’r Coleg Cymraeg ar y gwaith allweddol o hyrwyddo’r ddarpariaeth addysg uwch cyfrwng Cymraeg. Dymunwn pob dymuniad da i Morgan ar ei astudiaethau yng Nghaerdydd.”