Skip to main content Skip to footer
7 Mawrth 2025

Dathlu ymchwil gan fenywod

ADD ALT HERE

I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, cyhoeddir rhifyn arbennig rhithiol o Gwerddon sy’n dathlu ymchwil ac ysgolheictod gan fenywod.

Mae’r rhifyn hwn yn dwyn ynghyd detholiad o erthyglau gan fenywod sydd wedi eu cyhoeddi yn Gwerddon dros y ddeunaw mlynedd ddiwethaf. Dewiswyd chwe erthygl amrywiol iawn eu pynciau gan olygyddion Gwerddon, a lluniwyd rhagair gan yr Athro Menna Elfyn.

Meddai'r Athro Anwen Jones, golygydd Gwerddon:

"Amcan bwrdd golygyddol Gwerddon wrth ddod â'r rhifyn arbennig yma ynghyd yw dwyn i'r golwg ystod arbenigedd ysgolheigaidd merched sy'n cyhoeddi yn y Gymraeg, a'r rhan allweddol maent yn ei chwarae yn y ddeialog hollbwysig sy'n cyniwair rhwng tudalennau rhithiol y cyfnodolyn. Diolch am yr holl gyfraniadau gan ferched Cymru."

Dywed yr Athro Menna Elfyn yn ei rhagair:

“‘Astudrwydd yw ffurf puraf haelioni’ meddai Simone Weil. A dyna yw cnewyllyn a chraidd yr ystod  o ymchwil eangfrydig a chyffrous a geir yma. Ymddengys y meysydd oll yn arallfydol o ddiriaethol. Ond maes o law llwyddant oll i gynysgaeddu ein bydolwg, gan roi inni wybodaeth eithriadol. Newydd.”

Mae Gwerddon yn e-gyfnodolyn mynediad agored sy’n cyhoeddi ymchwil Cymraeg gwreiddiol mewn ystod eang o feysydd academaidd. Am ragor o wybodaeth ar sut i gyfrannu erthygl, ewch i’r dudalen hon neu cysylltwch â gwybodaeth@gwerddon.cymru.

Cliciwch isod i ddarllen erthyglau’r rhifyn.

(llun: Marian Delyth)

Rhifyn arbennig Diwrnod y Menywod