Skip to main content Skip to footer
15 Ionawr 2025

Y Coleg Cymraeg a CBAC yn cyhoeddi enillwyr Bwrsariaeth Gareth Pierce

ADD ALT HERE

Cyhoeddir heddiw, dydd Mercher 15 Ionawr, mai Iwan Rhys Bryer a Siôn ap Llwyd Dafydd o Brifysgol Caerdydd, a Jacob Matthew Redmond o Brifysgol Aberystwyth yw’r tri myfyriwr fydd yn derbyn Bwrsariaeth Gareth Pierce eleni.

Mae’r bwrsariaethau werth £3,000 yr un ac yn cael eu cynnig i hyd at dri myfyriwr israddedig sy’n astudio o leiaf draean o’u cwrs gradd Mathemateg trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Iwan Rhys Bryer o Lanarthne, Sir Gaerfyrddin, yn falch iawn ei fod yn gallu astudio rhan o’i gwrs trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd er mwyn apelio at gyflogwyr sy’n chwilio am weithwyr gyda sgiliau dwyieithog yn y dyfodol. Meddai:

 

 

Mae’n bwysig iawn fy mod i’n gallu astudio Mathemateg trwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn fy ngalluogi i adeiladu terminoleg ac arbenigedd yn y ddwy iaith. Dwi’n ddiolchgar i fy athrawon yn Ysgol Bro Myrddin am fy ysbrydoli i astudio Mathemateg yn y brifysgol, ac i CBAC a’r Coleg Cymraeg am y gefnogaeth.

Iwan Bryer

Mae Siôn ap Llwyd Dafydd o Ffos y Gerddinen ger Caerffili wedi bod yn angerddol dros Fathemateg ers yn blentyn ifanc pan ddechreuodd ddatrys posau. Meddai:

“Rwyf wrth fy modd yn astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Caerdydd ac rwy’n edrych ymlaen at fod yn athro neu’n ddarlithydd Mathemateg yn y dyfodol. Roedd yn bwysig iawn i mi barhau gyda fy addysg cyfrwng Cymraeg yn y brifysgol ar ôl gadael yr ysgol oherwydd Cymraeg yw fy iaith gyntaf.”

Roedd Jacob Matthew Redmond o Gaerdydd wrth ei fodd i glywed ei fod wedi ennill y fwrsariaeth i astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Meddai: 

“Dwi’n mwynhau byw yn Aberystwyth, ac mae’r cwrs hyd yn hyn yn arbennig. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Coleg ac i CBAC am y fwrsariaeth. Yn y dyfodol rwy’n gobeithio gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn fy nghymuned yn y sector ariannol.”

 

Cafodd y fwrsariaeth ei sefydlu yn 2022 er cof am Gareth Pierce, oedd yn Gadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a chyn hynny yn Brif Weithredwr Cydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC), cyn iddo farw’n sydyn yn 2021. Meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg: 

“Ar ran y Coleg, hoffwn longyfarch Iwan, Siôn a Jacob ar ennill Bwrsariaeth Gareth Pierce eleni. Mae’n fraint cefnogi’r fwrsariaeth yma er cof am gyfaill, cydweithiwr, a ffigwr dylanwadol a wnaeth gyfraniad allweddol i’r Coleg a’r maes addysg yng Nghymru yn ehangach. Rydyn ni’n ddiolchgar tu hwnt i deulu Gareth ac i CBAC hefyd am eu cefnogaeth. Dymunwn bob llwyddiant i'r myfyrwyr yn y dyfodol.”

Meddai Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC: 

"Mae cynllun bwrsari Gareth Pierce bellach yn ei drydedd flwyddyn, ac mae ei boblogrwydd cynyddol yn adlewyrchu brwdfrydedd Gareth dros Fathemateg a dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Ar ran CBAC, hoffwn longyfarch Jacob, Iwan a Siôn, sydd wedi ennill y fwrsariaeth nodedig hon. Pob hwyl iddynt gyda'u hastudiaethau, a gobeithio y bydd y bwrsari'n golygu eu bod yn gallu ffynnu yn eu cyrsiau perthnasol."

 

Am fwy o wybodaeth am Fwrsariaeth Gareth Pierce, ac i wirio pa gyrsiau sy’n gymwys, ewch i wefan y Coleg Cymraeg.