Mae Canllaw Diffinio Darpariaeth Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg a Dwyieithog y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn darparu arweiniad sut i gyfrifo ac adrodd darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Cyhoeddir y canllaw yn dilyn proses fanwl o ymgynghori gyda’r sector a gyda chydweithwyr yn Medr.
Mae’r rhan gyntaf yn cynnwys crynodeb, cyn mynd i fanylder pellach gan ddefnyddio enghreifftiau darluniadol helaeth. Prif ddiben y Canllaw yw sicrhau bod modiwlau addysg uwch sy’n cynnwys elfen o ddysgu cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog yn cael eu diffinio yn gywir ac yn gyson ar draws sefydliadau ac adrannau.
Mae profiad y myfyriwr yn flaenoriaeth a dylid sicrhau bod yr wybodaeth am y profiadau a’r cyfleoedd dysgu cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn glir ac yn ddealladwy iddynt hwythau.
Disgwylir i ddarparwyr ddilyn arweiniad y canllaw wrth gyfrifo, diffinio ac adrodd ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.
Os hoffech arweiniad pellach, cysylltwch â gwybodaeth@colegcymraeg.ac.uk

