Cymraeg Gwaith mewn Addysg Bellach
Bwriad Cymraeg Gwaith yw datblygu sgiliau Cymraeg staff mewn Colegau Addysg Bellach, gyda phwyslais arbennig ar staff sy’n addysgu. Mae dros 400 o staff yn buddio o'r cynllun bob blwyddyn.
Mae’r cynllun yn cynnig 120 awr o hyfforddiant iaith mewn blwyddyn i staff ar bob lefel - o lefel Mynediad i lefel Hyfedredd – gyda’r bwriad o gwblhau lefel gyfan yn ystod y flwyddyn.
Mae tiwtoriaid ar gael er mwyn cynorthwyo dysgwyr newydd, yn ogystal a siaradwyr nad oes ganddynt lawer o hyder, a’r rhai sy’n rhugl, i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn y gweithle.
Gall staff ddewis mynd i ddosbarthiadau wythnosol neu hunan-astudio.
Cymraeg Gwaith+
Dyma gynllun newydd sydd ar gael i staff ar lefelau Canolradd ac Uwch mewn Colegau Addysg Bellach.
Mae wedi’i deilwra ar gyfer staff mewn colegau addysg bellach sydd eisiau datblygu mwy o hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.
Pwrpas y sesiynau hyn yw newid arferion ieithyddol a chodi hyder siaradwyr, fel eu bod yn defnyddio’r Gymraeg pan fydden nhw fel arfer yn defnyddio’r Saesneg.
Bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i staff darlithio a staff sy'n cael dylanwad ar addysg dysgwyr.
Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sy’n cyllido rhaglenni Cymraeg Gwaith, gan gynnwys Cymraeg Gwaith+.