Skip to main content Skip to footer

Cymraeg Gwaith (AU, AB, +)

Cymraeg Gwaith mewn Addysg Bellach

Bwriad Cymraeg Gwaith yw datblygu sgiliau Cymraeg staff mewn Colegau Addysg Bellach, gyda phwyslais arbennig ar staff sy’n addysgu.  

Mae’r cynllun yn cynnig 120 awr o hyfforddiant iaith mewn blwyddyn i staff ar bob lefel - o lefel Mynediad i lefel Hyfedredd – gyda’r bwriad o gwblhau lefel gyfan yn ystod y flwyddyn.   

Mae tiwtoriaid ar gael er mwyn cynorthwyo dysgwyr newydd, yn ogystal a siaradwyr nad oes ganddynt lawer o hyder, a’r rhai sy’n rhugl, i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn y gweithle.  

Gall staff ddewis mynd i ddosbarthiadau wythnosol neu hunan-astudio.   

Cymraeg Gwaith+

Dyma gynllun newydd sydd ar gael i staff ar lefelau Canolradd ac Uwch mewn Colegau Addysg Bellach.

Mae wedi’i deilwra ar gyfer staff mewn colegau addysg bellach sydd eisiau datblygu mwy o hyder i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.  

Pwrpas y sesiynau hyn yw newid arferion ieithyddol a chodi hyder siaradwyr, fel eu bod yn defnyddio’r Gymraeg pan fydden nhw fel arfer yn defnyddio’r Saesneg.  

Bydd blaenoriaeth yn cael ei roi i staff darlithio a staff sy'n cael dylanwad ar addysg dysgwyr.  

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sy’n cyllido rhaglenni Cymraeg Gwaith, gan gynnwys Cymraeg Gwaith+.