Mae gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 5 cynllun llysgenhadon sef:
- Llysgenhadon Ysgol
- Llysgenhadon Addysg Bellach
- Llysgenhadon Prentisiaethau
- Llysgenhadon Addysg Uwch
- Llysgenhadon Ôl-raddedig.
Mae bod yn llysgennad yn waith sy'n derbyn tâl ac mae’r unigolion yn cael y cyfle i hyrwyddo’r Gymraeg o fewn eu hysgol, coleg, prifysgol neu weithle yn ogystal â bod yn rhan o waith marchnata y Coleg Cymraeg er mwyn hyrwyddo parhâd y defnydd o’r Gymraeg o’r ysgol i’r gweithle. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys digwyddiadau, ymweliadau ysgolion, blogiau, cyfweliadau a gwaith ar wefannau cymdeithasol.
Mae’r holl waith y mae’r llysgenhadon yn ei wneud yn eu helpu i ddatblygu nifer o sgiliau gan gynnwys sgiliau cyflwyno, siarad cyhoeddus, codi hyder a digidol.