Skip to main content Skip to footer

Y Cyflwyniad Llafar

Gwybodaeth bwysig

Mae'r cyflwyniad llafar yn cyfrif tuag at 50% o'r marc terfynol. Bydd disgwyl i ymgeiswyr gwblhau eu cyflwyniadau llafar ar-lein cyn canol mis Mawrth. Rhaid i bob ymgeisydd wneud cyflwyniad llafar a fydd yn para 7-8 munud yn ymwneud ag unrhyw agwedd ar ei faes/ei maes astudiaeth. Dylai’r cyflwyniad fod yn addas i gynulleidfa o bobl nad ydynt yn arbenigwyr yn y maes hwnnw; hynny yw, dylid sicrhau bod y cyflwyniad yn ddealladwy i rywun sy’n anghyfarwydd â’r pwnc dan sylw.

Canllawiau

  • Bydd disgwyl ichi baratoi un darn o ddeunydd atodol (e.e. hyd at 8 sleid PowerPoint).
  • Dylech roi eich enw llawn a'ch rhif aelodaeth Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar ben pob sleid.
  • Bydd angen i chi anfon eich cyflwyniad PowerPoint at eich tiwtor cyn diwrnod eich cyflwyniad.
  • Ar ddechrau’r cyflwyniad, dylech ddweud eich enw, eich rhif aelodaeth a'ch dyddiad geni.
  • Cofiwch ymarfer eich cyflwyniad yn drwyadl er mwyn sicrhau eich bod yn cadw at y gofynion amser.
  • Ni ddylech gynnwys unrhyw ddeunydd Saesneg o gwbl yn eich sleidiau.
  • Ar ddiwedd y cyflwyniad, bydd 7-8 munud i’r ymgeisydd ymateb i gwestiynau gan yr arholwr. Bydd y cwestiynau’n ymwneud ag unrhyw bwyntiau diddorol a gododd yn ystod y cyflwyniad.
  • Bydd angen i chi ddangos eich cerdyn adnabod prifysgol ar ddechrau eich cyflwyniad

Gwneud eich cyflwyniad ar Teams neu Zoom

Yn y fideos isod mae'r Tiwtoriaid Sgiliau Iaith, Anna a Bethan, yn amlinellu beth sydd angen ei gofio, wrth ddefnyddio Zoom neu Teams i wneud yr asesiad llafar.

Fideos Cefnogol - Paratoi at y Cyflwyniad Llafar

Datblygwyd y fideos isod i gynorthwyo ymgeiswyr y Dystysgrif Sgiliau Iaith wrth iddynt baratoi ar gyfer yr asesiad llafar. Dangosir dwy sefyllfa wahanol o bersbectif myfyriwr yn paratoi ar gyfer ei gyflwyniad llafar sy'n derbyn help llaw ac adborth gan ei ffrind. 

Cynnwys Fideo 1:

Mae'r cynnwys Fideo 1 yn ystyried y meini prawf canlynol: Dull cyflwyno, cynnwys a threfn ac ymateb i gwestiynau

Cynnwys Fideo 2

Mae'r cynnwys Fideo 2 yn ystyried y meini prawf canlynol: Ystod cystrawennau a geirfa, cywirdeb a deunydd gweledol

 

Adnoddau Cefnogol Pellach

Mae rhai adnoddau cefnogol pellach allai fod o ddefnydd i ti wrth baratoi ar gyfer yr asesiadau ar gael ar y Porth Adnoddau:

  • Llyfrynnau a fideos cyffredinol gloywi iaith
  • Cyn bapurau prawf
  • Enghreifftiau o asesiadau llafar da
  • Defnyddio offer cyfrifiadurol.
Adnoddau pellach ar y Porth Adnoddau