Dysgu’r Dyfodol: Cynllun mentora a phrofiad gwaith i fyfyrwyr prifysgol
Wyt ti eisiau gwybod mwy am yrfa fel athro yng Nghymru a chael dy dalu i’w wneud?
Rydyn ni’n cynnig cyfle i fyfyrwyr prifysgol, sy’n astudio unrhyw bwnc (heblaw am BA Addysg gyda SAC), sy’n siarad Cymraeg, ac sydd eisiau gwybod mwy am yrfa fel athro i gymryd rhan yn y cynllun Dysgu’r Dyfodol.
Mae taliad o £100 i bawb sy’n cwblhau’r cynllun!
Beth fydd yn cael ei gynnwys?
- 3 sesiwn mentora (awr yr un) ar-lein gydag athro gyrfa gynnar sy’n gallu rhannu profiadau gyda ti
- 2 ddiwrnod o brofiad gwaith mewn ysgol
Bydd y sesiynau mentora’n gyfle i ti ddod i ddeall mwy am sut i hyfforddi i fod yn athro, y profiad o fod yn athro yng Nghymru, a’r hyn sydd ar gael i athrawon gyrfa gynnar. Hefyd, bydd yn gyfle i ofyn cwestiynau i rywun sy wedi bod trwy’r broses yn ddiweddar a chael atebion onest.
Beth am y profiad gwaith?
Mae croeso i ti drefnu dy brofiad gwaith dy hun mewn ysgol gynradd neu uwchradd, neu mae’r Coleg yn gallu dy helpu di i drefnu. Bydd y ddau ddiwrnod profiad gwaith yn gyfle i ti gael blas o’r ystafell ddosbarth a bywyd mewn ysgol.
Y manteision
Bydd cymryd rhan yn y cynllun yn dy helpu di i:
- ychwanegu sgiliau a phrofiadau at dy CV
- ddeall mwy am yrfa fel athro a chael cyfle i ofyn cwestiynau pwysig
- ennill £100
Clicia ar y fideos i glywed mwy am y cynllun!
Darllena blog Hollie i glywed mwy am y cynllun Dysgu'r Dyfodol, a pham mae hi eisiau gweithio fel athrawes yn y dyfodol!
Heb amheuaeth, mae gyrfa mewn addysg yn gyfle euraidd. Deilliodd fy angerdd tuag at y Gymraeg trwy addysg gan mai’r ysgol oedd y lle y galluogodd i mi feithrin fy angerdd a chyfoethogi fy nysgu.
I mi, bydd gyrfa mewn addysg yn gyfle i efelychu’r holl gefnogaeth ac ysbrydoliaeth a dderbyniais tra’n ddisgybl yn yr ysgol gan obeithio gallu ysgogi angerdd disgyblion y dyfodol i ymfalchïo yn eu Cymraeg a’u hunaniaeth.
Trwy addysgu, gallwch ddatblygu eich arbenigedd mewn amrywiaeth o bynciau a hynny wrth ysbrydoli a chynorthwyo disgyblion i ddarganfod eu hangerdd hwythau.
Trwy Gynllun Dysgu’r Dyfodol y Coleg Cymraeg, cewch gyfle i brofi’r yrfa a derbyn cefnogaeth wrth i chi archwilio’r cyfleoedd sydd ar gael. Ar ben hynny, cewch daliad calonogol o £100 am gwblhau’r cynllun. Croesawir myfyrwyr o bob cwr o’r wlad a thu hwnt i ymgeisio ar gyfer y cynllun, a hynny o unrhyw gwrs Prifysgol boed yn y flwyddyn gyntaf, ail neu drydydd.
Wedi i chi gwblhau’r cynllun, nid yw’r gefnogaeth amhrisiadwy yn gorffen yno. O ganlyniad i brinder athrawon, ceir grantiau hyd at £20,000 i’w hawlio er mwyn eich cefnogi yn ystod eich blynyddoedd cynnar. Pa yrfa arall byddai’n cynnig cyfle mor arbennig?
Dyma eich cyfle i chi ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol ond hefyd cyfle i chi gyfoethogi eich arbenigedd a’ch sgiliau ar y daith. Cyniga’r cynllun sesiynau mentora a dau ddiwrnod o brofiad gwaith sy’n gyfle i chi fagu profiad a chadarnhau eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol wrth i chi dderbyn profiadau amhrisiadwy ac ysbrydoledig trwy’r cynllun. Byddaf yn bendant manteisio ar y cyfle a dylech chi hefyd!
Cofrestra ar gyfer Dysgu'r Dyfodol 24/25 yma: Ffurflen Cofrestru Dysgu'r Dyfodol
Os wyt eisiau gofyn unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r cynllun, cysyllta â Hannah Davies: h.davies@colegcymraeg.ac.uk