Skip to main content Skip to footer

Dysgu’r Dyfodol

Dysgu’r Dyfodol: Cynllun mentora a phrofiad gwaith i fyfyrwyr prifysgol 

 

Wyt ti eisiau gwybod mwy am yrfa fel athro yng Nghymru a chael dy dalu i’w wneud? 

Rydyn ni’n cynnig cyfle i fyfyrwyr prifysgol, sy’n astudio unrhyw bwnc (heblaw am BA Addysg gyda SAC), sy’n siarad Cymraeg, ac sydd eisiau gwybod mwy am yrfa fel athro i gymryd rhan yn y cynllun Dysgu’r Dyfodol.

Mae taliad o £100 i bawb sy’n cwblhau’r cynllun!

 

Beth fydd yn cael ei gynnwys?

  • 3 sesiwn mentora (awr yr un) ar-lein gydag athro gyrfa gynnar sy’n gallu rhannu profiadau gyda ti
  • 2 ddiwrnod o brofiad gwaith mewn ysgol

Bydd y sesiynau mentora’n gyfle i ti ddod i ddeall mwy am sut i hyfforddi i fod yn athro, y profiad o fod yn athro yng Nghymru, a’r hyn sydd ar gael i athrawon gyrfa gynnar. Hefyd, bydd yn gyfle i ofyn cwestiynau i rywun sy wedi bod trwy’r broses yn ddiweddar a chael atebion onest.

 

Beth am y profiad gwaith?

Mae croeso i ti drefnu dy brofiad gwaith dy hun mewn ysgol gynradd neu uwchradd, neu mae’r Coleg yn gallu dy helpu di i drefnu. Bydd y ddau ddiwrnod profiad gwaith yn gyfle i ti gael blas o’r ystafell ddosbarth a bywyd mewn ysgol.

 

Y manteision 

Bydd cymryd rhan yn y cynllun yn dy helpu di i: 

  • ychwanegu sgiliau a phrofiadau at dy CV
  • ddeall mwy am yrfa fel athro a chael cyfle i ofyn cwestiynau pwysig
  • ennill £100

Clicia ar y fideos i glywed mwy am y cynllun!

circular graphic

circular graphic

Os wyt eisiau gofyn unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r cynllun, cysyllta â Hannah Davies: h.davies@colegcymraeg.ac.uk