Skip to main content Skip to footer

Rhybudd Preifatrwydd ar gyfer myfyrwyr, dysgwyr a defnyddwyr eraill y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Mae’r rhybudd preifatrwydd hwn yn berthnasol i’r categorïau canlynol o fyfyrwyr a dysgwyr:

1. Darpar ddysgwyr / fyfyrwyr (oedran 16-18)

2. Dysgwyr yn y sectorau Addysg Bellach a Dysgu yn y Gweithle

3. Myfyrwyr sydd yn y Brifysgol

4. Myfyrwyr Ôl-radd

5. Myfyrwyr sydd yn dilyn cyrsiau sgiliau iaith, ac yn derbyn Tystysgrif Sgiliau Iaith wedi ei chymhwyso gan CBAC

6. Unrhyw ddefnyddiwr neu fyfyriwr arall sydd ddim yn disgyn i un o’r categorïau uchod

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn parchu'ch preifatrwydd ac yn ymrwymedig i warchod eich data personol. Bydd y rhybudd preifatrwydd hwn yn rhoi gwybod i chi sut yr ydym yn gofalu am eich data personol ac yn dweud wrthych chi am eich hawliau preifatrwydd, a sut mae'r gyfraith yn eich amddiffyn chi.
Mae'n bwysig eich bod chi'n darllen y rhybudd preifatrwydd hwn ynghyd ag unrhyw rybudd preifatrwydd arall neu rybudd prosesu teg y gallwn ei ddarparu ar adegau penodol, fel eich bod yn gwbl ymwybodol o sut a pham yr ydym yn defnyddio'ch data personol. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn ychwanegu at unrhyw rybuddion eraill y byddwn yn eu paratoi o dro i dro.

Rheolwr


Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw'r rheolwr ac yn gyfrifol am eich data personol (y “Coleg”, "ni" neu "ein" yn y rhybudd preifatrwydd hwn).


Rydym wedi penodi swyddog diogelu data sy'n gyfrifol am oruchwylio cwestiynau mewn perthynas â'r hysbysiad preifatrwydd hwn.


Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rhybudd preifatrwydd hwn, gan gynnwys unrhyw geisiadau i arfer eich hawliau cyfreithiol, cysylltwch felly gyda’n swyddog diogelu data gan ddefnyddio'r manylion a nodir isod.

Manylion cyswllt: Swyddog Diogelu Data

Ein manylion llawn yw: Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Ffordd y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3EQ

Cyfeiriad e-bost: cymorth@colegcymraeg.ac.uk

Rhif Ffon: 01267 610400

Mae gennych yr hawl i wneud cwyn ar unrhyw adeg i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), awdurdod goruchwyliol y DU ar gyfer materion diogelu data (www.ico.org.uk). Fodd bynnag, byddem yn gwerthfawrogi'r cyfle i ddelio â'ch pryderon cyn i chi fynd i'r ICO felly cysylltwch â ni yn y lle cyntaf.

 

Egwyddorion Diogelu Data


Byddwn yn cydymffurfio â chyfraith diogelu data. Mae’r ddeddf yn dweud bod rhaid i'r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch chi:


1. Gael ei ddefnyddio yn gyfreithlon, yn deg ac mewn ffordd dryloyw.

2. Fod wedi'i gasglu yn unig at ddibenion dilys yr ydym wedi'u hesbonio'n eglur i chi ac nad ydynt wedi'u defnyddio mewn unrhyw ffordd sy'n anghydnaws â'r dibenion hynny.

3. Fod yn berthnasol i'r dibenion yr ydym wedi dweud wrthych amdanynt ac yn gyfyngedig i'r dibenion hynny yn unig.

4. Fod yn gywir ac mor ddiweddar a phosib.

5. Yn cael ei gadw cyn belled ag y bo ei angen yn unig, at y dibenion yr ydym wedi dweud wrthych amdanynt.

6. Yn cael ei gadw'n ddiogel.

 

Newidiadau i'r hysbysiad preifatrwydd a'ch dyletswydd i roi gwybod i ni am newidiadauMae'n bwysig bod y data personol sydd gennym amdanoch chi yn gywir ac yn gyfredol. Rhowch wybod i ni os yw'ch data personol yn newid yn ystod eich perthynas â ni.

 

Y data a gasglwn amdanoch chi
Mae data personol, neu wybodaeth bersonol, yn golygu unrhyw wybodaeth am unigolyn y gellir adnabod y person hwnnw ohono. Nid yw'n cynnwys data lle mae'r manylion personol wedi'i dynnu (data anhysbys).

Efallai y byddwn ni'n casglu, defnyddio, storio a throsglwyddo gwahanol fathau o ddata personol amdanoch chi, er enghraifft:

  • Mae eich Manylion Personol yn cynnwys enw cyntaf, cyfenw, statws priodasol, teitl, dyddiad geni a rhyw.
  • Mae Data Cyswllt yn cynnwys cyfeiriad bilio, cyfeiriad cartref, cyfeiriad e-bost a rhifau ffôn.
  • Mae Data Ariannol yn cynnwys manylion banc a cherdyn talu.
  • Mae Data Trafod yn cynnwys manylion am daliadau i chi ac oddi wrthych a manylion eraill y cynhyrchion a'r gwasanaethau rydych chi yn eu prynu neu eu derbyn gennym ni.
  • Mae Data Proffil yn cynnwys eich enw defnyddiwr a chyfrinair, pryniannau neu orchmynion a wneir gennych chi, eich diddordebau, dewisiadau, adborth ac ymatebion i'r arolwg.
  • Mae Data Defnydd yn cynnwys gwybodaeth am sut rydych chi'n defnyddio ein gwasanaethau.
  • Mae Data Marchnata a Chyfathrebu yn cynnwys eich dewisiadau wrth dderbyn deunydd marchnata gennym ni neu drydydd parti a'ch dewisiadau cyfathrebu.
  • Mae Data Personol Sensitif yn cynnwys manylion am eich hil neu ethnigrwydd, credoau crefyddol neu athronyddol, bywyd rhyw, tueddfryd rhywiol, barn wleidyddol a gwybodaeth am eich data iechyd.

Rydym hefyd yn casglu, defnyddio a rhannu Data Cyfunol fel data ystadegol neu ddemograffig at wahanol ddibenion. Efallai y bydd Data Cyfunol yn deillio o'ch data personol ond ni chaiff ei ystyried yn ddata personol yn ôl y gyfraith gan nad yw'r data hwn yn datgelu eich hunaniaeth yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol. Er enghraifft, efallai y byddwn yn cyfuno'ch Data Defnydd i gyfrifo canran y myfyrwyr neu ddefnyddwyr sy'n defnyddio nodwedd gwefan benodol. Fodd bynnag, os byddwn yn cyfuno neu gysylltu Data Agregedig gyda'ch data personol fel y bydd yn bosib eich adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, byddwn yn trin y data cyfunol fel data personol a fydd yn cael ei ddefnyddio yn unol â'r hysbysiad preifatrwydd hwn.

 

Os na fyddwch yn darparu data personol

Lle mae angen i ni gasglu data personol yn ôl y gyfraith, neu o dan delerau contract sydd gennym gyda chi a'ch bod yn methu â darparu'r data hwnnw pan ofynnir amdano, efallai na fyddwn yn gallu cyflawni'r contract sydd gennym neu sy'n ddarpar gontract gyda chi (er enghraifft, i ddarparu ysgoloriaeth i chi). Yn yr achos hwn, efallai y bydd yn rhaid i ni ganslo y gwasanaeth yr ydych yn ei dderbyn gennym ni. Byddwn yn eich hysbysu os yw hyn yn wir ar y pryd.

 

Sut mae eich data personol yn cael ei gasglu?

Defnyddiwn wahanol ddulliau i gasglu data oddi wrthych ac amdanoch chi, gan gynnwys trwy:

  • Ryngweithiadau uniongyrchol. Fe allwch chi roi eich [Manylion personol, Cyswllt a Data Ariannol] i ni drwy lenwi ffurflenni neu drwy gyfathrebu â ni drwy'r post, ffôn, e-bost, dros ein gwefan, neu fel arall. Mae hyn yn cynnwys data personol rydych chi'n ei ddarparu pan fyddwch yn:
    gwneud cais am ein gwasanaethau (gan gynnwys ysgoloriaethau);
  • creu cyfrif ar ein gwefan;
  • tanysgrifio i'n gwasanaeth neu ein cyhoeddiadau;
  • ymaelodi gyda’r Coleg
  • gofyn am farchnata i'w hanfon atoch;
  • cymryd rhan mewn cystadleuaeth, ymchwil neu arolwg; neu
  • yn rhoi rhywfaint o adborth i ni.
  • gan drydydd bartïon neu ffynonellau sydd ar gael i'r cyhoedd, fel a ganlyn:
    • Data Cyswllt, Ariannol a Thrafodion gan ddarparwyr gwasanaethau technegol, talu a darparu.
    • Manylion personol a Data Cyswllt gan froceriaid data neu agregyddion.
    • Manylion personol a Data cyswllt o ffynonellau cyhoeddus ar gael, megis Tŷ'r Cwmnïau a'r Gofrestr Etholiadol.

 

Sut rydym yn defnyddio'ch data personol
Byddwn ond yn defnyddio'ch data personol pan fydd y gyfraith yn ein galluogi ni i wneud hynny. Yn fwyaf cyffredin, byddwn yn defnyddio'ch data personol yn yr amgylchiadau canlynol:

  • Lle mae angen i ni gyflawni'r contract yr ydym ar fin ei ddechrau gyda chi neu yr ydych chi wedi ymuno ac ef.
  • Lle bo'n angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (neu rai trydydd parti) ac mewn sefyllfa ble nad yw eich buddiannau a'ch hawliau sylfaenol yn goresgyn y buddiannau hynny.
  • Lle mae angen i ni gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol neu reoleiddiol.

Yn gyffredinol, nid ydym yn dibynnu ar ganiatâd fel sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol. Yn y dyfodol os fydd angen eich caniatâd arnom i brosesu eich data personol byddwn yn cysylltu gyda chi i ofyn am eich caniatâd gan amlinellu’r defnydd y byddwn yn ei wneud o’ch data sydd yn ein barn ni yn ddibynnol ar dderbyn eich caniatâd.

 

Y dibenion y byddwn yn defnyddio'ch data personol ar ei gyfer

Rydym wedi nodi isod, mewn fformat tabl, ddisgrifiad o'r holl ffyrdd rydym yn bwriadu defnyddio'ch data personol, a pha rai o'r sylfeini cyfreithiol yr ydym yn dibynnu arnynt i wneud hynny. Rydym hefyd wedi nodi beth yw ein buddiannau cyfreithlon lle bo hynny'n briodol.

Nodwch y gallwn brosesu eich data personol ar gyfer mwy nag un maes cyfreithlon, yn dibynnu ar y pwrpas penodol yr ydym yn defnyddio'ch data. Cysylltwch â ni os oes arnoch angen manylion am y maes cyfreithiol penodol yr ydym yn dibynnu arno i brosesu eich data personol lle mae mwy nag un maes wedi'i nodi yn y tabl isod.

Defnyddir y termau canlynol yn y tabl isod:

  • Mae Budd Cyfreithiol yn golygu diddordeb ein busnes wrth gynnal a rheoli ein busnes i'n galluogi i roi'r gwasanaeth / cynnyrch gorau a'r profiad gorau a mwyaf diogel i chi. Rydym yn sicrhau ein bod yn ystyried ac yn cydbwyso unrhyw effaith bosibl arnoch chi (yn gadarnhaol a negyddol) a'ch hawliau cyn i ni brosesu eich data personol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon. Nid ydym yn defnyddio'ch data personol ar gyfer gweithgareddau lle mae yr effaith ar eich buddiannau chi yn fawr (oni bai bod gennym eich caniatâd neu fel arall ble mae'n ofynnol neu'n ôl y gyfraith). Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut yr ydym yn asesu ein buddiannau cyfreithlon yn erbyn unrhyw effaith bosibl arnoch chi trwy gysylltu â ni.
  • Mae Perfformiad Contract yn golygu prosesu eich data lle bo'n angenrheidiol ar gyfer perfformio contract yr ydych yn rhan ohono, neu gymryd camau ar eich cais cyn neu wrth i chi ymrwymo i gontract o'r fath.
  • Mae cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol neu reoleiddiol yn golygu prosesu eich data personol lle bo'n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol neu reoleiddiol yr ydym yn ddarostyngedig iddo.
Pwrpas / Gweithgaredd Math o ddata Sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gan gynnwys sail buddiant dilys
I'ch cofrestru fel myfriwr / ddefnyddiwr (a) Manylion personol
(b) Cysylltu
Perfformiad contract gyda chi
I reoli ein perthynas â chi a fydd yn cynnwys:
(a) Hysbysu chi am newidiadau i'n telerau neu bolisi preifatrwydd
(b) Gofyn i chi adael adolygiad neu gymryd arolwg
(c) rhoi mynediad i chi i’r Porth a Llyfrgell y Coleg
(a) Manylion Personol
(b) Cyswllt
(c) Proffil
(ch) Marchnata a Chyfathrebu
(a) Perfformiad contract gyda chi
(b) Angenrheidiol i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol
(c) Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (i gadw ein cofnodion yn gyfredol ac i astudio sut mae ein myfyrwyr / defnyddwyr yn defnyddio ein gwasanaethau)
Er mwyn eich galluogi i gymryd rhan mewn cystadleuaeth wobrwyo, ysgoloriaethau, cystadlu neu gwblhau arolwg (a) Manylion Personol
(b) Cyswllt
(c) Proffil
(ch) Defnydd
(e) Marchnata a Chyfathrebu
(a) Perfformiad contract gyda chi
(b) Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (i adolygu patrymau addysg myfyrwyr i ganiatáu’r Coleg i dargedu cyllid ag
amser i ymestyn y ddarpariaeth lle mae’r angen)
Gweinyddu a diogelu y Coleg a'r wefan hon (gan gynnwys datrys problemau, dadansoddi data, profi, cynnal a chadw systemau, cefnogi, adrodd (a chynnal data) (a) Manylion Personol
(b) Cyswllt
(a) Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (ar gyfer rhedeg ein sefydliad, darparu gwasanaethau gweinyddu a TG, diogelwch rhwydwaith, i atal twyllac yng nghyd-destun ad-drefnu’r sefydliad)
(b) Angenrheidiol i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol
I ddarparu cynnwys a hysbysebion gwefan berthnasol i chi a mesur neu ddeall effeithiolrwydd yr hysbysebion a wasanaethwn ichi (a) Manylion Personol
(b) Cyswllt
(c) Proffil
(ch) Defnydd
(e) Marchnata a Chyfathrebu
Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (i astudio sut mae ein myfyrwyr / defnyddwyr yn defnyddio ein gwasanaethau, i'w datblygu, i hybu addysg cyfrwng Cymraeg ac i lywio ein strategaeth farchnata)
I ddefnyddio dadansoddiadau data i wella ein gwasanaethau, marchnata, perthnasau a phrofiadau ein myfyrwyr / defnyddwyr (a) Defnydd Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (i ddiffinio mathau o fyfyrwyr / defnyddwyr am ein gwasanaethau, i hybu addysg ôl-16 cyfrwng Cymraeg ac i lywio ein strategaeth farchnata)
I wneud awgrymiadau ac argymhellion i chi am wasanaethau a all fod o ddiddordeb i chi (a) Manylion Personol
(b) Cyswllt
(c) Defnydd
(ch) Proffil
Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (i ddatblygu ein gwasanaethau ac i hybu addysg ôl-16 cyfrwng Cymraeg)
I gyhoeddi eich enw a’ch Ysgol Uwchradd neu Goleg Addysg Bellach ar wefan y Coleg ar rôl anrhydedd Ysgolorion y Coleg (a) Enw
(b) Ysgol Uwchradd neu Coleg Addysg Bellach
Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau hanfodol o hyrwyddo addysg ôl-16 cyfrwng Cymraeg

Sut rydym yn defnyddio data personol arbennig o sensitif
Mae na “gategorïau arbennig" o wybodaeth bersonol arbennig o sensitif yn gofyn am lefelau amddiffyn uwch. Mae angen i ni gael cyfiawnhad pellach dros gasglu, storio a defnyddio'r math hwn o wybodaeth bersonol.

Gallwn brosesu categorïau arbennig o wybodaeth bersonol yn yr amgylchiadau canlynol:

1. Mewn amgylchiadau cyfyngedig, gyda'ch caniatâd penodol.

2. Lle mae ei angen er budd y cyhoedd, megis ar gyfer monitro cyfle cyfartal.

Yn llai cyffredin, gallwn brosesu'r math hwn o wybodaeth lle mae ei angen mewn perthynas â hawliadau cyfreithiol neu lle mae ei angen er mwyn amddiffyn eich buddiannau (neu fuddiannau rhywun arall) ac nad ydych yn gallu rhoi eich caniatâd, neu lle rydych chi eisoes wedi gwneud y wybodaeth yn gyhoeddus.

Cynigion hyrwyddo gennym ni
Efallai y byddwn yn defnyddio'ch Manylion Personol, Cyswllt, Defnydd a Phroffil i lunio barn ar yr hyn yr ydym yn ei feddwl y dymunwch ei gael, neu yr ydych ei angen, neu beth allai fod o ddiddordeb i chi. Dyma sut rydym yn penderfynu pa gynhyrchion, gwasanaethau a chynigion a allai fod yn berthnasol i chi, ac yn cysylltu â chi i’ch hysbysu amdanynt.

Byddwch yn derbyn cyfathrebiadau marchnata oddi wrthym os ydych chi wedi gofyn am wybodaeth gennym ni neu os rhoddasoch eich manylion i ni pan wnaethoch chi gystadlu neu gofrestru gyda ni.

Tynnu allan
Gallwch ofyn i ni neu drydydd parti megis un o’r prifysgolion, neu Gronfa William Salesbury roi'r gorau i anfon negeseuon marchnata i chi ar unrhyw adeg trwy gysylltu â ni ar unrhyw adeg.

Os byddwch yn tynnu allan o dderbyn y negeseuon marchnata hyn, ni fydd hyn yn berthnasol i ddata personol a ddarparwyd i ni o ganlyniad i’r ffaith eich bod yn defnyddio ein gwasanaethau o hyd.

Newid pwrpas
Byddwn ond yn defnyddio'ch data personol at y dibenion y cafodd ei gasglu, oni bai ein bod yn rhesymol yn ystyried bod angen inni ei ddefnyddio am reswm arall ac fod y rheswm hwnnw'n gydnaws â'r pwrpas gwreiddiol. Os hoffech gael eglurhad ynghylch sut mae'r prosesu ar gyfer y pwrpas newydd yn gydnaws â'r pwrpas gwreiddiol, cysylltwch â ni.


Os bydd angen i ni ddefnyddio eich data personol at ddiben arall, byddwn yn eich hysbysu a byddwn yn egluro'r sail gyfreithiol sy'n ein galluogi i wneud hynny.

Nodwch y gallwn brosesu eich data personol heb eich gwybodaeth neu'ch caniatâd, yn unol â'r rheolau uchod, lle mae hyn yn ofynnol neu'n cael ei ganiatáu yn ôl y gyfraith.

Datgeliadau o'ch data personol

Bydd yn rhaid i ni rannu eich data personol gyda'r partïon a nodir isod at y dibenion a nodir yn y tabl ym mharagraff 3 uchod.

I’ch cyflwyno i’r prifysgolion, gan gynnwys eu tiwtoriaid, darlithwyr, a swyddogion cyswllt y Coleg Cymraeg Cenedlaethol sydd yn gyflogedig ganddynt hwy (a) Manylion personol
(b) Cyswllt
(c) Trafod
(d) Marchnata a Chyfathrebu
(a) Perfformiad contract gyda chi
(b) Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (hyrwyddo a hwyluso eich mynediad at addysg drwy gyfrwng y Gymraeg)
Cydbwyllgor Addysg Cymru (CBAC) (a) Manylion Personol
(b) Cyswllt
(c) Trafod
(d) Marchnata a Chyfathrebu
(a) Perfformiad contract gyda chi
(b) Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (nodi eich llwyddiant wrth gymhwyso gyda Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg)
Darparwyr Gwasanaeth Gofodau Dysgu’r Coleg (a) Manylion Personol
(b) Manylion Cyswllt
(a) Perfformiad contract gyda chi
(b) Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (hyrwyddo a hwyluso eich mynediad at addysg drwy gyfrwng y Gymraeg)
Safleoedd lleoliad gwaith neu bartneriaid addysgol sy’n ymwneud gyda darpariaeth ar y cyd (a) Manylion Personol
(b) Manylion Cyswllt
(a) Perfformiad contract gyda chi
(b) Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon
(hyrwyddo a hwyluso eich mynediad at addysg a gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg)
Llywodraeth Cymru (a) Manylion Personol
(b) Manylion Cyswllt
(c) Defnydd
(d) Proffil
(a) Perfformiad contract gyda chi
(b) Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (gan mai nhw sydd yn ein hariannu ac felly angen i ni adrodd yn ôl ar ein hystadegau / llwyddiannau)
Cwmniau Technoleg Allanol, gan gynnwys cwmniau Technoleg Gwybodaeth ac Adnoddau Dynol (a) Manylion Personol
(b) Manylion Cyswllt
(c) Trafod
(d) Marchnata a Chyfathrebu
(e) Defnydd
(f) Proffil
(a) Perfformiad contract gyda chi
(b) Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (hyrwyddo a hwyluso eich mynediad at addysg a gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg
Cyflogwyr neu ddarparwyr addysg yr ydych chi wedi cysylltu gyda nhw (a) Manylion Personol
(b) Manylion Cyswllt
(a) Perfformiad contract gyda chi
(b) Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (hyrwyddo a hwyluso eich mynediad at addysg a gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg, trwy gadarnhau eich cymwysterau
Darparwyr gwasanaethau llên-ladrad (a) Manylion Personol
(b) Manylion Cyswllt
(c) Trafod
(d) Defnydd
(e) Proffil
(a) Perfformiad contract gyda chi
(b) Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (hyrwyddo a hwyluso eich mynediad at addysg a gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg a sicrhau fod safonau yn cael ei cynnal)
Darparwyr ysgoloriaethau, boed yn elusennau megis Cronfa William Salesbury, sefydliadau addysgol neu chynghorau sir (a) Manylion personol
(b) Manylion cyswllt

(a) Perfformiad contract gyda chi (b) Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon (hyrwyddo a hwyluso eich mynediad at addysg a gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg)

Cynghorwyr proffesiynol (yn gweithredu fel proseswyr neu gyd-reolwyr) gan gynnwys cyfreithwyr, bancwyr, archwilwyr ac yswirwyr (a)Manylion personol
(b) Manylion cyswllt
(c) Data ariannol
(a) Perfformiad contract gyda chi
(b) Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon i ni allu rhedeg y sefydliad yn effeithlon
Cyllid a Thollau EM, rheoleiddwyr ac awdurdodau eraill sy'n gweithredu fel proseswyr neu gyd-reolwyr wedi'u seilio yn y Deyrnas Unedig y bydd angen inni adrodd am weithgareddau prosesu iddynt dan rai amgylchiadau. (a) Manylion personol
(b) Manylion cyswllt
(c) Data ariannol
(a) Perfformiad contract gyda chi
(b) Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon i ni allu rhedeg y sefydliad yn effeithlon
Trydydd bartïon y gallem ddewis trosglwyddo, neu uno ein sefydliad neu ein hasedau. Fel arall, efallai y byddwn yn uno gyda sefydliadau eraill. Os bydd newid yn digwydd i'n sefydliad, yna gall y sefydliad newydd ddefnyddio'ch data personol yn yr un modd ag a nodir yn y rhybudd preifatrwydd hwn. (a) Manylion personol
(b) Manylion cyswllt
(c) Data ariannol
(d) Data Proffilio
(e) Trafod
(f) Defnydd
(a) Angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon i ni allu rhedeg y sefydliad yn effeithlon

Rydym yn ei gwneud yn ofynnol i bob trydydd parti barchu diogelwch eich data personol a'i drin yn unol â'r gyfraith. Nid ydym yn caniatáu i'n darparwyr gwasanaeth trydydd parti ddefnyddio eich data personol at eu dibenion eu hunain a dim ond yn caniatáu iddynt brosesu eich data personol at ddibenion penodol ac yn unol â'n cyfarwyddiadau.

Trosglwyddiadau rhyngwladol
Nid ydym yn trosglwyddo'ch data personol y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE).

Diogelwch data
Rydym wedi rhoi mesurau diogelwch priodol ar waith i atal eich data personol rhag cael ei golli, ei ddefnyddio neu ei ddefnyddio mewn ffordd anawdurdodedig, ei newid neu ei ddatgelu yn ddamweiniol. Yn ogystal, rydym yn cyfyngu ar fynediad i'ch data personol i'r gweithwyr, asiantau, contractwyr a thrydydd partïon eraill y mae ganddynt reswm busnes i wybod amdano. Byddant ond yn prosesu eich data personol ar ein cyfarwyddiadau ac maent yn ddarostyngedig i ddyletswydd cyfrinachedd.

Rydym wedi rhoi gweithdrefnau ar waith i ddelio ag unrhyw dorri rheolau data personol a amheuir a byddwn yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol o doriad rheolau data personol lle mae'n ofynnol i ni wneud hynny yn gyfreithiol.

Cadw data
Am ba hyd y byddwch chi'n defnyddio fy data personol?


Byddwn ond yn cadw eich data personol cyn belled ag y bo'n angenrheidiol i gyflawni'r dibenion y casglwyd y data ar ei gyfer, gan gynnwys at ddibenion bodloni unrhyw ofynion cyfreithiol, cyfrifyddu neu adrodd.

Er mwyn pennu'r cyfnod cadw priodol ar gyfer data personol, rydym yn ystyried swm, natur a sensitifrwydd y data personol, y perygl posibl o’r niwed o ddefnyddio neu ddatgelu'ch data personol heb awdurdod, y dibenion yr ydym yn prosesu eich data personol ar eu cyfer, os medrwn gyflawni'r dibenion hynny trwy ddulliau eraill, a'r gofynion cyfreithiol perthnasol.

Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i ni gadw gwybodaeth sylfaenol am ein cwsmeriaid (gan gynnwys Manylion Cyswllt, Personol, Data Ariannol a Thrafod) am chwe mlynedd.

Mewn rhai amgylchiadau, gallwch ofyn i ni ddileu eich data:

Mewn rhai amgylchiadau, efallai y byddwn yn troi eich data personol i fod yn anhysbys (fel na all fod yn gysylltiedig â chi bellach) at ddibenion ymchwil neu ddibenion ystadegol, ac os felly, efallai y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon am gyfnod amhenodol heb rybudd pellach i chi.

Eich hawliau cyfreithiol
O dan rai amgylchiadau, mae gennych hawliau dan gyfreithiau diogelu data mewn perthynas â'ch data personol.

Mae gennych yr hawl i:

  • Ofyn am fynediad i'ch data personol (gelwir yn gyffredin fel "cais am fynediad deiliad data"). Mae hyn yn eich galluogi i dderbyn copi o'r data personol sydd gennym amdanoch chi ac i wirio ein bod yn ei brosesu'n gyfreithlon.
  • Ofyn am gywiro'r data personol yr ydym yn ei ddal amdanoch chi. Mae hyn yn eich galluogi i gywiro unrhyw ddata anghyflawn neu anghywir sydd gennym amdanoch chi, er efallai y bydd angen i ni wirio cywirdeb y data newydd a roddwch i ni.
  • Ofyn am ddileu eich data personol. Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni ddileu data personol lle nad oes rheswm da dros barhau i'w brosesu. Mae gennych hefyd yr hawl i ofyn i ni ddileu eich data personol lle rydych wedi arfer eich hawl i wrthwynebu’r prosesu (gweler isod), lle efallai y byddwn wedi prosesu'ch gwybodaeth yn anghyfreithlon neu lle mae gofyn i ni ddileu eich data personol i gydymffurfio â chyfraith leol. Sylwch, fodd bynnag, na fyddwn bob amser yn gallu cydymffurfio â'ch cais i ddileu am resymau cyfreithiol penodol ac fe fyddwn yn rhoi gwybod i chi, os yw hyn yn berthnasol, ar adeg eich cais.
  • Wrthwynebu prosesu eich data personol lle rydyn ni'n dibynnu ar fudd cyfreithlon (neu rai trydydd parti) ac mae rhywbeth am eich sefyllfa benodol sy'n eich gwneud yn awyddus i wrthwynebu prosesu ar y sail hon gan eich bod yn teimlo ei fod yn effeithio ar eich hawliau a’ch rhyddid sylfaenol. Mae gennych hefyd yr hawl i wrthwynebu lle rydym yn prosesu eich data personol at ddibenion marchnata uniongyrchol. Mewn rhai achosion, efallai y byddwn yn medru arddangos bod gennym sail gyfreithlon gref i brosesu eich gwybodaeth sy'n trechu eich hawliau a'ch rhyddid.
  • Ofyn am gyfyngu ar brosesu eich data personol. Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni atal prosesu eich data personol yn y senarios canlynol: (a) os ydych chi am i ni sefydlu cywirdeb y data; (b) lle mae ein defnydd o'r data yn anghyfreithlon ond nad ydych am i ni ei ddileu; (c) lle mae angen i ni ddal y data hyd yn oed os nad ydym bellach ei angen gan y bydd ei angen arnoch i sefydlu, ymarfer neu amddiffyn hawliadau cyfreithiol; neu (ch) eich bod wedi gwrthwynebu ein defnydd o'ch data ond mae angen i ni wirio a oes gennym sail gyfreithiol i'w ddefnyddio sy’n trechu eich gwrthwynebiad.
  • Ofyn am drosglwyddo eich data personol i chi neu i drydydd parti. Byddwn yn darparu i chi, neu drydydd parti o’ch dewis, eich data personol mewn fformat strwythuredig, sy’n gyffredin ei ddefnydd, ac sy'n ddarllenadwy ar bapur. Noder mae’r
    hawl hwn ond yn berthnasol i wybodaeth awtomataidd y rhoddoch ganiatâd i ni ei ddefnyddio yn lle cyntaf, ac a ddefnyddiwyd i berfformio contract gyda chi.
  • Dynnu'ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg lle rydym yn dibynnu ar ganiatâd i brosesu eich data personol. Fodd bynnag, ni fydd hyn yn effeithio ar gyfreithlondeb unrhyw brosesu a gynhelir cyn i chi dynnu eich caniatâd yn ôl. Os byddwch yn tynnu'ch caniatâd yn ôl, efallai na fyddwn yn gallu darparu rhai cynnyrch neu wasanaethau i chi. Byddwn yn eich cynghori os yw hyn yn wir ar yr adeg y byddwch yn tynnu'ch caniatâd yn ôl.

Os hoffech chi ymarfer unrhyw un o'r hawliau a nodir uchod, cysylltwch â ni.