Ydych chi eisiau datblygu eich sgiliau Cymraeg?
Mae cynlluniau a chefnogaeth ar gael i staff prifysgolion, faint bynnag o Gymraeg sydd gennych chi.
Os ydych chi’n siaradwr gwbl newydd, neu angen ychydig o help i godi hyder, mae sawl opsiwn ar gael.
Cymraeg Gwaith mewn Addysg Uwch
Cynllun sy’n cynnig hyfforddiant iaith yn wythnosol drwy’r flwyddyn i staff prifysgol ar bob lefel - o lefel Mynediad i lefel Hyfedredd – yw Cymraeg Gwaith mewn Addysg Uwch.
Yn ystod y flwyddyn academaidd (rhwng mis Medi 2024 a mis Gorffennaf 2025) byddwch yn cwblhau lefel gyfan. Gallwch gael yr hyfforddiant ar ffurf dosbarthiadau wythnosol neu drwy hunanastudio. Bydd tiwtoriaid a chydlynwyr ar gael ym mhob prifysgol i'ch helpu.
Os ydych chi’n aelod o staff yn un o’r prifysgolion isod ac yn awyddus i gael gwybod mwy am yr hyn sydd ar gael ichi cysylltwch â’r cydlynwyr isod:
- Abertawe - Emyr Jones: emyr.jones@abertawe.ac.uk
- Aberystwyth - Olwen Morus: olm25@aber.ac.uk
- Bangor - Jenny Pye j.pye@bangor.ac.uk, o fis Awst 2024 ymlaen, Elen Davies elen.davies@bangor.ac.uk
- Caerdydd - Anna Jones: JonesA251@caerdydd.ac.uk
- De Cymru - Annalie Price: annalie.price@decymru.ac.uk
- Y Drindod Dewi Sant - Catrin Evans-Thomas: c.evans-thomas@uwtsd.ac.uk
- Met Caerdydd - Gerwyn Williams: gwilliams6@cardiffmet.ac.uk
- Wrecsam - Teresa Davies: teresa.davies2@wrexham.ac.uk
Am ymholiadau cyffredinol am Gymraeg Gwaith mae croeso ichi gysylltu â Dr Owen Thomas: o.thomas@colegcymraeg.ac.uk
Cefnogaeth arall
Mae tiwtoriaid y Dystysgrif Sgiliau Iaith yn y prifysgolion hefyd yn cynnig cefnogaeth sgiliau iaith i staff.
Gall staff sefyll y Dystysgrif Sgiliau Iaith gyda chymorth tiwtor, mewn cyfres o sesiynau.
Os yw eich Adran yn derbyn Grant Pynciol neu Grant Sbarduno gan y Coleg Cymraeg, bydd y tiwtor yn cysylltu â’ch Adran i gynnig cefnogaeth sgiliau iaith. Neu mae modd cysylltu â’r tiwtor i wneud cais am gefnogaeth benodol.
Am ymholiadau ynghylch y Dystysgrif Sgiliau Iaith a/neu gefnogaeth tiwtor: gwybodaeth@colegcymraeg.ac.uk.